6. Dadl: Hawliau Dynol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 3 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:18, 3 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn llygad ei le, ni ddylid gwahaniaethu o gwbl rhwng haeddiannol ac anhaeddiannol fel y'i gelwir, oherwydd mae hynny'n taro ar yr egwyddor bod hawliau dynol yn perthyn i bawb mewn gwirionedd. Wrth gwrs, dywedodd Dominic Raab, yr Arglwydd Ganghellor, yn 2009, cyn iddo fod yn Arglwydd Ganghellor:

'Dydw i ddim yn cefnogi'r Ddeddf Hawliau Dynol a dydw i ddim yn credu mewn hawliau economaidd a chymdeithasol.'

Dyna'n union sy'n sail i gyfeiriad y Llywodraeth yn ideolegol. Fel mae adroddiad diweddaraf Tŷ'r Cyffredin a Chyd-bwyllgor Hawliau Dynol Tŷ'r Arglwyddi yn ei ddweud, yng ngoleuni ein cefnogaeth i Wcráin a'u brwydr dros ddemocratiaeth, hawliau dynol a rheolaeth y gyfraith, byddai'n eironi ofnadwy nawr i ni fod yn gwanhau ein hamddiffyniadau ein hunain wrth i ni wneud hynny.

Wrth gwrs, mae materion cyfansoddiadol allweddol eraill yn y fantol, mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn hanfodol i ddemocratiaeth Cymru. Rhaid i ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio yn y Senedd hon fod yn gydnaws â'r Ddeddf, felly rhaid i unrhyw weithred neu newid gael cytundeb holl ddeddfwrfeydd cenedlaethol y DU. Mae cynigion Llywodraeth y DU bron yn gyfan gwbl yn anwybyddu'r effaith bosibl ar ein fframwaith cyfansoddiadol, cyfreithiol a pholisi datganoledig.

Gadewch i ni droi nawr at Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022, Deddf sy'n ymosodiad ar ryddid sydd wedi bodoli ers canrifoedd. Mae'n gosod cyfyngiadau mawr ar yr hawl ddemocrataidd i brotestio. Mae'n cynnwys rhai elfennau sy'n debyg i gyfyngiadau ar ryddid sydd wedi'u cyflwyno yn Rwsia Putin ac mae'n dileu'n raddol sylfeini hawliau ein pobl i lefaru rhydd a'r hawl i brotestio, yr hawl i herio arfer pŵer gan y Llywodraeth a cham-drin pŵer.

Bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar fywydau pobl ledled Cymru, ac rydym ni wedi brwydro erioed i sicrhau bod llais y Senedd yn cael ei glywed drwy gydol y broses ddeddfwriaethol. Fodd bynnag, mae agweddau ar y Bil sy'n sbarduno gwrthwynebiad moesol iawn. Gwrthododd y Senedd gymalau yn ymwneud â phrotestio a gwersylloedd diawdurdod. Pwysleisiodd ein Senedd yr ymrwymiad i'r hawl i ymgynnull yn heddychlon a phrotestio, a mynegwyd arswyd am yr ymgais i droseddoli pobl o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Ni all fod, o ystyried digwyddiadau rhyngwladol, ac o ystyried pwy yr ydym ni'n dweud ydym ni fel cenedl, y gall unrhyw un gyfiawnhau'r symudiadau atchweliadol iawn hyn.

Mae'r un peth yn wir am Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022, sy'n amlygu, rwy'n credu, y man gwan hiliol o ran meddwl Llywodraeth y DU, ac y mae'r Cenhedloedd Unedig yn dweud y bydd hefyd yn torri cyfraith ryngwladol. Bydd yn parhau i erydu ein hawliau dynol sylfaenol. Mae'r Ddeddf yn gwbl groes i'n hathroniaeth o genedl noddfa a nod cyffredinol Llywodraeth Cymru i gael Cymru fwy cyfartal. Bydd yn creu system ddwy haen yn seiliedig ar ddull unigolyn o gyrraedd y DU yn unig ac nid ar sail teilyngdod ei achos. Bydd y Ddeddf yn cael effaith andwyol ar ddarparu cymorth integreiddio yng Nghymru, yn gwaethygu ansefydlogrwydd ac yn cynyddu'r camddefnydd o fudwyr a gweithio anghyfreithlon yn ein cymunedau—pobl sydd eisoes yn agored i niwed ac y bydd eu natur agored i niwed yn cynyddu ymhellach. Bydd yn cynyddu digartrefedd ac o bosibl yn peryglu iechyd y cyhoedd, gan fod y rheini sydd heb droi at arian cyhoeddus yn debygol o ofni dod ymlaen i gael gofal iechyd.

Mae hyn, wrth gwrs, heb sôn hyd yn oed am gynllun Rwanda'r Llywodraeth—cynllun ffiaidd a fydd yn sicr o ddod â bygythiadau difrifol a gwirioneddol i ddiogelwch, yn enwedig diogelwch rhag masnachu mewn pobl, a godwyd gan y cyn Brif Weinidog Theresa May, cynllun a ddisgrifiwyd gan bennaeth Eglwys Loegr fel un

'Yn groes i natur Duw.'

Gadewch i mi fod yn gwbl glir: yr hyn yr ydym ni'n ei weld yma yw ymosodiad ideolegol sylfaenol ar hawliau dynol, cwrteisi sylfaenol a moesoldeb dynol. Mae'r cynigion hyn, gyda'i gilydd ac yn unigol, yn elyniaethus iawn i egwyddorion sylfaenol ein democratiaeth a hanfod tosturi Cymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol i bawb yng Nghymru yn parhau i fod mor gryf ag erioed, a gwn fod y penderfyniad hwn yn cael ei adleisio ymhlith mwyafrif o'n Haelodau.

Cyhoeddwyd ein hadroddiad 'Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru' fis Awst diwethaf, sef yr ymchwil a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, Diverse Cymru a Chymru Ifanc. Trafodwyd ein hymateb i'r adroddiad mewn cyfarfod o'r grŵp llywio cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yr wythnos diwethaf, a gadeiriwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac roeddwn innau'n bresennol hefyd. Bydd ein hymateb terfynol yn cael ei gyhoeddi'n fuan a byddwn hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp hawliau dynol trawsbleidiol a chomisiynwyr Cymru. Mae'n nodi'r prif feysydd gwaith y byddwn ni’n eu datblygu: datblygu cyfres o ganllawiau ar hawliau dynol, adolygu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, ychwanegu hawliau dynol at ein hasesiadau effaith integredig, a chynyddu'r ffordd yr ydym ni’n hyrwyddo'r materion hyn yng Nghymru.

Byddwn yn awr yn datblygu cynllun gweithredu ac amserlen fanwl i gwmpasu'r holl ffrydiau gwaith hyn, a byddwn hefyd yn gwneud gwaith paratoi a fydd yn ein galluogi ni i ystyried dewisiadau ar gyfer ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru yn unol ag argymhelliad cyntaf yr adroddiad ac ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu ein hunain yn y maes hwn. Diben Bil o'r fath fyddai cryfhau hawliau holl ddinasyddion Cymru, a lliniaru, cyn belled ag y bo modd, effeithiau negyddol camau gweithredu gan Lywodraeth y DU. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ymuno â ni heddiw i ailddatgan ymrwymiad y Senedd i hawliau dynol—