Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 3 Mai 2022.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly. Mae'r pleidleisiau heddiw ar eitem 6, sef y ddadl ar hawliau dynol. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais ar welliant 1. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.