Hawliau Cyfartal i Blant ag Anableddau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:52, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ar 9 Chwefror eleni, nodais wrth ein Senedd, er bod gan bob plentyn hawl i chwarae fel y’i hymgorfforir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac er bod adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried anghenion plant sy’n anabl mewn perthynas â digonolrwydd cyfleoedd chwarae, fod llawer o feysydd chwarae ledled Cymru o hyd, Weinidog, heb unrhyw gyfleusterau addas ar gyfer plentyn ag anabledd. Fe ddywedoch chi ar y pryd:

'yn sicr, byddaf yn mynd i’r afael â hyn ac yn archwilio'r mater, yn enwedig gyda’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol'.

Dri mis yn ddiweddarach, a wnewch chi gadarnhau pa drafodaethau a gafwyd gyda’r Dirprwy Weinidog, ac a wnewch chi ddweud wrthym pa gamau ychwanegol a gymerir i sicrhau nad oes unrhyw blant yn cael eu hamddifadu o’u hawl i chwarae yng Nghymru? Diolch.