Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 4 Mai 2022.
Wrth gwrs, y neges—os caf barhau—yw ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i bob plentyn yn unol â darpariaethau adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, darpariaeth benodol ar gyfer anghenion plant anabl, ac mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cynnwys gofyniad clir y dylid darparu mannau hamdden a chwarae. Felly, rwy’n siŵr y byddwch yn edrych ar asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae eich awdurdod lleol bob blwyddyn. Mae disgwyl un ddiwedd mis Mehefin eleni.