Ymosodiad Rwsia ar Wcráin

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:54, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Altaf Hussain. Gwneuthum ddatganiad llafar ddoe i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Senedd am ein dull o gefnogi ceiswyr noddfa o Wcráin. Rydym yn parhau i arddangos ein gweledigaeth cenedl noddfa fel uwch-noddwr drwy roi cymorth ar waith ac annog gwelliannau i brosesau Llywodraeth y DU.