Diogelwch Cymunedol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:20, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'n deg dweud eu bod—ac rwy'n siŵr y gall pawb gytuno â hyn—oherwydd tanariannu ac ad-drefnu'r gwasanaethau prawf yng Nghymru a Lloegr dros y 12 mlynedd diwethaf, wedi wynebu cyfnod anodd iawn. Yn aml, gall hyn arwain at ganlyniadau real a thrasig. Ar hyn o bryd, mae dros 700 o swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr. A yw'r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaethau ynghylch lefelau staff a pha effaith y mae hynny'n ei chael ar ddiogelu aelodau o'r cyhoedd yma yng Nghymru?