Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 4 Mai 2022.
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Rydym yn ariannu Age Cymru i weithio gyda phobl hŷn i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hawliau gan ddefnyddio ein canllawiau a gydgynhyrchwyd, 'Sicrhau bod hawliau’n gweithio i bobl hŷn'. Mae Age Cymru hefyd yn cynhyrchu pecyn cymorth fideo ac yn cyflwyno ymgyrch hawliau pobl hŷn, sydd ar y gweill tan fis Mehefin.