Prentisiaeth Cyfreithiwr Lefel 7

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:26, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Rydym yn gwneud cynnydd da ar brentisiaethau cyfreithiol. Er enghraifft, yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd fframwaith prentisiaeth gennym ar gyfer dau gymhwyster newydd gan Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, paragyfreithiol lefel 3 a pharagyfreithiol uwch lefel 5. Dylai hyn helpu i ehangu mynediad economaidd-gymdeithasol at y proffesiwn cyfreithiol.