Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:29, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Pa ymgysylltiad a gawsoch â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer y DU ynghylch eu cyhoeddiad ar 15 Mawrth y bydd £135 miliwn ychwanegol yn cael ei wario ar y sector cymorth cyfreithiol bob blwyddyn i gyd-fynd â'r argymhellion a wnaed gan adolygiad annibynnol o'r system, dan oruchwyliaeth Syr Christopher Bellamy CF, a fydd, ar ben y £200 miliwn ychwanegol blynyddol i gyflymu'r system llysoedd, yn golygu bod cyfanswm cyllid y trethdalwr ar gyfer amddiffyn troseddol yn £1.2 biliwn y flwyddyn?