Troseddau Rhyfel yn Wcráin

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 2:22, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac os caf, Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle i gofnodi fy niolch i'n Senedd yma yn y Siambr am y ffordd y mae'r Cwnsler Cyffredinol—yn rhinwedd ei swydd fel Cwnsler Cyffredinol yn Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn bersonol—y ffordd y mae wedi hyrwyddo achos pobl Wcráin, nid yn unig yn ddiweddar, ond ers blynyddoedd lawer? 

Lywydd, dylai'r holl ddynoliaeth siarad ag un llais, a dweud y dylai'r rhai sydd wedi achosi'r rhyfel hwn a'r erchyllterau cysylltiedig wynebu cyfiawnder. Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i chwarae rhan ragweithiol yn codi llais dros gyfiawnder?