2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 4 Mai 2022.
3. Pa sgyrsiau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU am y frwydr barhaus dros gyfiawnder i deuluoedd Hillsborough? OQ57981
Wel, diolch am eich cwestiwn ar y mater pwysig hwn. Cyn ei ymddiswyddiad egwyddorol, gohebais a chefais drafodaethau rheolaidd gyda'r Arglwydd Wolfson am amrywiaeth o bryderon difrifol fel y rhain. Rydym yn aros, unwaith eto, i Lywodraeth y DU benderfynu pwy fydd y Gweinidog newydd i arwain y gwaith o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb a'i ymrwymiad hirsefydlog i gefnogi teuluoedd trychineb Hillsborough. Gwyddoch fy mod wedi codi'r mater hwn o'r blaen, fod angen cyfraith Hillsborough arnom yn awr i gefnogi'r ymgyrch. Bydd y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn ymwybodol o'r galwadau diweddar, unwaith eto, gan y meiri metro Llafur, Andy Burnham a Steve Rotheram, am gyfraith Hillsborough. A wnewch chi ofyn i Lywodraeth y DU frysio, a phenderfynu pwy fydd yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder, oherwydd mae hon yn ddeddfwriaeth hollbwysig? A wnewch chi drosglwyddo'r neges honno i'ch Gweinidog cyfatebol pan gaiff ei benodi, a gofyn iddynt gefnogi'r ymgyrch yn ogystal â gweithredu yn awr a chyflwyno cyfraith Hillsborough?
Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw, ac am godi mater diwygio cyfraith pwysig iawn yn fy marn i. Ac mae'n werth atgoffa pobl beth yw cyfraith Hillsborough mewn gwirionedd, o dan, mae'n debyg, yr enw Bil Awdurdod Cyhoeddus (Atebolrwydd), y cyfeirir ato fel cyfraith Hillsborough. Mae'n ymwneud â darparu siarter i deuluoedd sy'n colli anwyliaid drwy drasiedi gyhoeddus, sy'n rhwymo mewn cyfraith i bob corff cyhoeddus; dyletswydd o onestrwydd i weision cyhoeddus; cyfranogiad priodol teuluoedd galarus mewn cwestau, drwy gynrychiolaeth gyfreithiol a ariennir yn gyhoeddus, ac eiriolwr cyhoeddus i weithredu dros deuluoedd yr ymadawedig yn sgil digwyddiadau mawr.
Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n mynd at wraidd cyfiawnder sylfaenol. Rwyf wedi gwneud y pwynt o'r blaen, wrth gwrs, o gofio bod llysoedd crwneriaid yng Nghymru'n cael eu hariannu'n gyfan gwbl gan arian cyhoeddus, ei bod yn ymddangos i mi ei fod yn fater y dylid ei ddatganoli i Gymru, yn ogystal â darparu cyllid cyhoeddus priodol ar gyfer cynrychiolaeth mewn cwestau. Rwy'n credu ei fod wedi bod yn wendid ac yn anghysondeb mawr erioed nad yw hynny wedi bodoli.
Ni ddylai neb fynd drwy'r mathau o brofiadau y mae teuluoedd Hillsborough wedi bod drwyddynt, y camau y bu'n rhaid iddynt eu cymryd er mwyn cael cyfiawnder, gyda llawer o'r teuluoedd hynny'n rhoi rhan fawr o'u bywydau, a bywydau eu teuluoedd, i gael y cyfiawnder hwnnw. Ac nid dyna'r unig gamweddau cyfiawnder. Ceir mannau eraill lle gwelwyd camweddau cyfiawnder sylweddol; heb fod yn hir yn ôl, fe wnaethoch chi sôn am Horizon a'r swyddfeydd post, ac wrth gwrs, mae nifer o farwolaethau'n gysylltiedig â hynny ynddo'i hun.
Felly, y sicrwydd y gallaf ei roi i chi yw bod hyn yn rhywbeth a fydd ar yr agenda o faterion y byddwn yn eu codi gyda'r Gweinidog newydd pan gaiff ei benodi, a byddaf yn adrodd yn ôl eto ar ganlyniad y trafodaethau hynny.