Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:38, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Ddiwedd mis Mawrth, cafodd datganiad Llywodraeth Cymru ar fwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Dribiwnlysoedd Cymru ei dynnu'n ôl. Pryd y gwneir y datganiad yn awr, ac a all y Cwnsler Cyffredinol warantu i mi y bydd y datganiad yn darparu cerrig milltir allweddol, gydag arweiniad a chyfeiriad clir ac atebol? Diolch.