2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 4 Mai 2022.
4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch hawliau ceiswyr lloches yng Nghymru yng ngoleuni cynllun Llywodraeth y DU i brosesu ceisiadau am loches o'r glannau hyn yn Rwanda? OQ57950
Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn falch fod Cymru'n genedl noddfa i bawb. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiogelu hawliau ceiswyr lloches yng Nghymru ac yn ceisio trafod y cynigion hyn gyda Llywodraeth y DU. Ni rannodd Llywodraeth y DU ei chynigion parthed Rwanda gyda Llywodraeth Cymru cyn eu cyhoeddi.
Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol, ac nid wyf yn credu bod hynny'n synnu neb. Mae cynllun Rwanda, wrth gwrs, yn annynol, yn anymarferol ac yn debygol iawn o fod yn anghyfreithlon hefyd. Fe'i hysgogwyd gan fuddiannau tymor byr Llywodraeth Dorïaidd asgell dde yn hytrach nag unrhyw ymgais wirioneddol i ddod o hyd i ateb sy'n diogelu pobl mewn argyfwng sy'n dianc rhag rhyfel, dioddefwyr masnachu pobl neu ateb sy'n mynd i'r afael o ddifrif â methiannau ein system fewnfudo doredig. Cafodd ei gondemnio gan bawb, o Oxfam i Theresa May. Mae'n warthus ac mae'n warthus i bob un ohonom yn y Deyrnas Unedig fod hyn wedi cyrraedd y pwynt hwn. A all y Cwnsler Cyffredinol roi sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod hawliau ceiswyr lloches yng Nghymru yn cael eu diogelu hyd eithaf gallu'r Llywodraeth hon ac i sicrhau graddau llawn yr holl bwerau cyfreithiol sydd ar gael i Weinidogion, Llywodraeth Cymru a hefyd y lle hwn, ac y bydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn sicrhau bod gwerthoedd pobl Cymru yn parhau i lywio ein hymagwedd fel cenedl noddfa i ddarparu cartrefi, diogelwch a chymorth i bobl sydd eu hangen a'u bod yn gwneud mwy na cheisio bachu penawdau papurau newydd ddydd ar ôl dydd, fel y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i bob golwg?
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r sylwadau hynny. Maent yn sylwadau y mae Aelodau eraill wedi'u gwneud, yn sylwadau y mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi'u gwneud hefyd, ac mae llawer o Aelodau eraill wedi gwneud y sylwadau hynny yn y Siambr hon. Credaf mai ddoe ddiwethaf y gallais gyfeirio at bennaeth Eglwys Loegr a gyfeiriodd at y cynigion hyn fel rhai sy'n groes i natur Duw. Nid wyf yn grefyddol fy hun, ond pan fydd pennaeth eglwys fawr yn cael ei ysgogi gan gynigion i'r fath raddau nes eu bod yn dweud eu bod yn annuwiol, mae'n rhaid i lywodraeth nodi hynny. Ac roedd yn eithaf eironig, mewn gwirionedd, pan oedd Boris Johnson yn Kyiv yn siarad am hawliau dynol, fod Priti Patel yn cael ei bygwth â chamau cyfreithiol am dorri hawliau dynol ar lefel y DU.
Ar wahân i hynny, mae'r cynigion yn debygol o fod yn hynod o ddrud ac aneffeithlon. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o gwbl y byddant yn cyflawni unrhyw beth y mae Llywodraeth y DU yn dweud y byddant yn ei gyflawni. Maent yn sicr yn groes i'r confensiwn ffoaduriaid, yn enwedig erthyglau 31 a 32. Rwy'n monitro'n agos iawn y camau cyfreithiol y deallaf eu bod yn cael eu dwyn gerbron i herio'r cyfreithlondeb, ac mae'n ymddangos i mi fod cwestiwn pwysig iawn yn codi ynglŷn ag a yw'r cynigion hyn yn torri cyfraith ryngwladol ai peidio. Ond byddaf yn monitro hynny'n agos iawn, a byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i gefnogi cyfreithlondeb rhyngwladol.