Arferion Diswyddo ac Ailgyflogi

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:11, 4 Mai 2022

Diolch yn fawr iawn ichi. Mae hynny'n galonogol iawn i'w glywed. Mi ydym ni, finnau a Mike Hedges, drwy ein rôl efo'r grŵp trawsbleidiol PCS, wedi clywed gan PCS bod rhai sefydliadau a ariennir gan drethdalwyr Cymru yn defnyddio diswyddo ac ailgyflogi, wedyn mae o'n beth da i weld bod y Comisiwn felly yn cael dylanwad o ran hyn o beth. Fyddech chi yn cytuno efo fi, o ran contractwyr, ei bod hi'n bwysig ein bod ni yn sicrhau a gyrru neges glir iawn nad yw'r arfer o ddiswyddo ac ailgyflogi yn rhywbeth rydyn ni yn cytuno â fo yn y Senedd hon?