Lle sy'n Ystyriol o Feigryn

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

3. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod ystâd y Senedd yn lle sy'n ystyriol o feigryn? OQ57960

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:14, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Mae’r Comisiwn yn sicrhau bod hygyrchedd ystad y Senedd yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn gweithredu fel esiampl yn unol â datblygiadau ac arferion gorau a ddaw i’r amlwg. Mae cynllun adeilad y Senedd yn cael gwared ar oleuadau annaturiol, sy'n rhy llachar, yn cyflwyno mannau mawr agored, yn lleihau sŵn, ac mae cyfforddusrwydd thermol yn cael ei reoleiddio, gan leihau amrywiadau eithafol mewn tymheredd. Mae nifer o orsafoedd dŵr ar gael am ddim ar ystad y Senedd, ynghyd ag amrywiaeth o fyrbrydau iach. Mae ystafelloedd tawel yn hygyrch, ac mae swyddogion cymorth cyntaf cymwys wrth law. Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau, wrth iddo barhau i ddatblygu'r ystad, fel lleoliad i ymwelwyr a gweithle, fod ymrwymiadau'r Comisiwn i gynhwysiant a hygyrchedd yn parhau i fod yn rhan hollbwysig o'r cynllun hwnnw.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:15, 4 Mai 2022

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Bydd y Migraine Trust yn darparu pecyn cymorth, toolkit, i Aelodau'r Senedd y mis yma er mwyn ein helpu ni i roi cymorth i bobl sy'n dioddef o feigryn, gan gynnwys y staff sy'n gweithio efo ni ac yn wir holl staff y Senedd a'r Llywodraeth. A wnaiff y Comisiwn gymryd camau i sicrhau bod staff y Senedd yn teimlo eu bod nhw'n gallu datgelu bod ganddyn nhw'r cyflwr yma, cyflwr sy'n cael ei stigmateiddio yn llawer rhy aml, a'u bod nhw'n medru gofyn am addasiadau rhesymol, gan rannu arfer da am sut mae cefnogi staff sy'n byw efo meigryn orau? Diolch.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r pecyn cymorth hwnnw’n fawr iawn ac edrychaf ymlaen at ei dderbyn. O ran absenoldeb o’r gwaith, mae’r broses ar gyfer cofnodi absenoldeb yn cynnwys cod meigryn yn benodol er mwyn cefnogi cofnodi cywir yn ogystal â lleihau’r stigma yr ydych newydd ei grybwyll. Mae’r nyrs iechyd galwedigaethol ar gael yn rheolaidd ar gyfer apwyntiadau unigol, wyneb yn wyneb neu’n rhithiol, ac mae nifer o fannau tawel ar gael yn ôl yr angen. Mae'r holl offer cyfrifiadurol newydd sy'n cael ei brynu, yn liniaduron a sgriniau, wedi'u hardystio gan TÜV Rheinland, a lle caiff rhai newydd eu prynu, byddant yn bodloni'r gofyniad hwnnw. Bydd yr un peth yn digwydd gyda'r setiau teledu newydd a osodir ar draws yr ystad. Nid yw rhai ohonynt, wrth gwrs, yn bodloni'r safon honno am nad oes rhai newydd wedi'u gosod yn eu lle, ond rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weithio gyda chi a'r Migraine Trust i sicrhau ein bod yn gyflogwr ac yn ofod yma sy'n sicrhau bod pobl yn teimlo'n gyfforddus os ydynt yn dioddef o'r meigryn. Diolch.