5. Datganiadau 90 eiliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:17, 4 Mai 2022

Diolch yn fawr iawn unwaith eto, Dirprwy Lywydd. Heddiw, dwi am dynnu sylw'r Senedd at Reilffordd Llyn Tegid, sy'n teithio o Lanuwchllyn i'r Bala ac sydd yr wythnos yma yn dathlu 50 mlwyddiant ers gosod y traciau cyntaf ar gyfer y rheilffordd bresennol. Roedd y rheilffordd wreiddiol yn rhan o rwydwaith a oedd yn teithio o Riwabon i'r Bermo, ond fel cynifer o reilffyrdd Cymru, fe ddioddefodd o dan fwyell Beeching nôl ym 1965. Ond efo gweledigaeth George Barnes a chefnogaeth y Cynghorydd Tom Jones bryd hynny, sefydlwyd cwmni newydd, cwmni Rheilffordd Llyn Tegid, y cwmni cyntaf i gael ei gofrestru trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda llaw. Dechreuodd y cwmni weithredu 50 mlynedd yn ôl ym 1972, gan newid y trac o un maint safonol i un maint cul, gan weithredu fel atyniad ymwelwyr.

Mae nifer fawr o bobl wedi rhoi oriau dirifedi i sicrhau llwyddiant y rheilffordd, ac mae angen diolch i bob un o'r gwirfoddolwyr yma. Rŵan mae'r rheilffordd yn edrych i ymestyn y traciau ymhellach i mewn i'r Bala a datblygu gorsaf newydd yn y dref fydd yn denu miloedd yn rhagor o ymwelwyr i'r ardal. Dwi'n edrych ymlaen, felly, i weld y datblygiad newydd cyffrous yma er mwyn sicrhau 50 mlynedd lwyddiannus arall i'r rheilffordd fach odidog yma yn hyfrydwch Meirionnydd.