Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 4 Mai 2022.
Byr iawn yn wir. Rwy’n ceisio cael ateb i’r cwestiwn a ofynnais yn gynharach: pan oedd gennym Lywodraeth Lafur yma a Llywodraeth Lafur mewn grym yn y DU hefyd, pam y gwelsom filiwn o blant yn cael eu codi allan o dlodi? Beth y llwyddodd y gynghrair ryfedd honno i'w wneud lle mae Llywodraeth y DU wedi methu ei wneud, cyn ac ar ôl y Llywodraeth honno?