Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 4 Mai 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Heddiw, mae ein cynnig yn adlewyrchu’r ffaith bod economi Cymru, yn ôl llawer o ddangosyddion allweddol, yn dal ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Er enghraifft, mae'n ffaith mai Cymru, o blith holl wledydd y DU, sydd â'r twf gwaethaf mewn gwerth ychwanegol gros ers 1999. Ni hefyd sydd â'r allbwn cynnyrch domestig gros y pen isaf, sef £24,586. Ni a gododd y swm lleiaf o refeniw y pen yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2020, a phobl sy’n byw yng Nghymru sydd â’r incwm gwario gros isaf yn y DU, sef £17,263. Nid yw’r rhain yn ystadegau newydd, ac nid ydynt yn deillio o bandemig COVID neu am fod pobl y DU wedi dewis gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ym 1997, roedd pecynnau cyflog wythnosol gweithwyr yng Nghymru a'r Alban yr un fath yn union, ar £301 yr wythnos. Ond erbyn 2021, roedd pecyn cyflog yng Nghymru yn cynnwys £562, tra bo pecyn cyflog wythnosol yn yr Alban yn cynnwys £60 yn rhagor, sef £622. Yn wir, drwy gydol fy amser fel Aelod o’r Senedd o 2007 ymlaen, cafwyd cymaint o ddadleuon am gyflwr economi Cymru a’r angen i wneud pethau’n wahanol, ac eto, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae ein heconomi wedi aros yn eu hunfan ac ar waelod y tabl mewn perthynas â llawer o ddangosyddion allweddol. A dyna pam ein bod wedi cyflwyno’r ddadl hon, oherwydd, er gwaethaf uchelgais a phenderfyniad clir busnesau, mae rhywbeth nad yw'n gweithio. Ac felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn ystyried yr ystadegau difrifol hyn ac yn ceisio cyflwyno atebion arloesol a gefnogir gan ddiwydiant.
Nawr, gwelaf fod Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i’n cynnig sy’n datgan eu barn mai dim ond drwy annibyniaeth y bydd busnesau Cymru yn cyrraedd eu potensial llawn. Rwy’n siŵr na fydd yn syndod i unrhyw un yn y Siambr hon y prynhawn yma glywed na fyddwn ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru. Yn wir, credwn mai ein haelodaeth o’r DU yw’r union beth sydd wedi diogelu economi Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, a phe baem yn annibynnol, byddai ein heconomi mewn sefyllfa lawer gwannach. Amlygwyd hyn yn ystod y pandemig pan wnaeth ein haelodaeth o’r DU ein helpu i oroesi storm pandemig byd-eang, gyda biliynau o bunnoedd o gymorth yn cael ei ddarparu i Gymru er mwyn mynd i’r afael ag effaith COVID-19. Mae’n gwbl amlwg fod bod yn rhan o’r DU wedi helpu i fynd i’r afael â’r pandemig, gyda Llywodraeth y DU yn darparu brechlynnau, profion COVID a chymorth y lluoedd arfog yng Nghymru, yn ogystal â mesurau ariannol arloesol sydd wedi diogelu bywoliaeth oddeutu 500,000 o bobl yng Nghymru. Felly, credwn y byddai Cymru annibynnol yn peryglu economi Cymru ac yn ei gwneud yn llai gwydn yn wyneb pandemigau a siociau byd-eang.