Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Rhai sy'n Gadael Gofal

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 10 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:35, 10 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, diolch i Jack Sargeant am hynna. Mae gwrando ar lais plant yn rhan annatod o'n gwaith ac, yn wir, wedi'i ymgorffori mewn deddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd hon. Yr haf hwn, byddwn yn dod â phobl ifanc â phrofiad o ofal ynghyd i drafod ein hagenda radical o leihau niferoedd gofal, dileu'r broses o wneud elw yn y system ofal, a darparu ein cynllun incwm sylfaenol arloesol.