Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 10 Mai 2022.
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod heddiw yn ddiwrnod arwyddocaol iawn yn natblygiad y sefydliad hwn. Fe wnes i ddod â fy nghopi o gomisiwn Richard gyda mi, a phan roeddwn i'n meddwl am ddod i lawr yma y prynhawn yma, cofiais yn eglur sefyll ochr yn ochr â'r Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, pan wnaeth alwad ffôn i'r Arglwydd Richard yn gofyn iddo gadeirio'r comisiwn hwnnw. A dyma ni, 20 mlynedd y tu hwnt i'w gynnig i ehangu nifer yr Aelodau etholedig yma yng Nghymru, o'r diwedd yn gallu dod â chapasiti'r Senedd i bwynt lle y gall gyflawni'r cyfrifoldebau sy'n disgyn ar ysgwyddau pobl sy'n cael eu hethol i fod yma. Ac onid dyna bwrpas y diwygiad? I wneud yn siŵr bod penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yma yng Nghymru ar ran pobl yng Nghymru yn cael eu gweithredu gan sefydliad sydd â'r adnoddau priodol i wneud hynny.
Rwyf i wedi edrych yn ôl yn ddiweddar, Llywydd, ar y cynigion niferus i greu Senedd yma yng Nghymru. Nid oedd yr un ohonyn nhw, ac eithrio'r un a gyrhaeddodd y llyfr statud, yn cynnig nifer mor fach â 60. Cynigiodd adroddiad Kilbrandon, a sefydlwyd yn y 1960au, 100 o aelodau ar gyfer y senedd Cymru a gynigiwyd ganddo. Gallwch fynd yn ôl cyn belled â Bil Llywodraeth Cymru dydd Gŵyl Dewi Emlyn Hooson ym 1967 i weld cynnig ar gyfer 88 aelod o'r senedd a gynigiwyd bryd hynny, ac roedd hwnnw yn gorff heb lawer o'r cyfrifoldebau y mae'n rhaid eu harfer yma. Felly, diben y diwygiadau a'r ffaith ein bod ni wedi gallu dod i gytundeb, ar ôl yr hyn a fydd erbyn hynny wedi bod yn 25 mlynedd o geisio sicrhau diwygio, fydd creu senedd yma yng Nghymru sy'n adlewyrchu pobl Cymru yn ei hamrywiaeth, ac sydd â'r gallu priodol i gyflawni'r cyfrifoldebau y mae'r Senedd hon yn gyfrifol am eu cyflawni ar ran pobl Cymru.