1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Mai 2022.
3. A wnaiff y Prif Weinidog rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am darged Llywodraeth Cymru i ddileu hepatitis C yng Nghymru? OQ58030
Llywydd, er bod adnoddau wedi gorfod cael eu cyfeirio i fannau eraill yn ystod y pandemig, roedd y camau a gymerwyd i daclo digartrefedd ar y stryd yn golygu bod nifer fawr o gleifion newydd yn gallu cael triniaeth effeithiol. Mae cynlluniau allweddol yn ailddechrau erbyn hyn mewn gwasanaethau feirysau a gludir yn y gwaed.
Diolch am yr ymateb yna. Mae gan o leiaf 8,000 o bobl yng Nghymru heintiad cronig hepatitis C, ond mi allwn ni gael gwared ar hepatitis C yn llwyr. Dyna'r newyddion da mewn difrif. Ond er bod gwaredu yn bosib a bod Cymru yn y gorffennol wedi cymryd camau breision tuag at ddileu erbyn 2030, y gwir amdani yw ein bod ni rŵan wedi llithro yn ôl a dydyn ni ddim ar y trywydd iawn i daro'r targed, ac mae yna dargedau erbyn hyn sy'n llawer mwy uchelgeisiol yn yr Alban a hefyd yn Lloegr. Rŵan, yr agwedd mae Llywodraeth Cymru wedi ei gymryd ar hyn, yn anffodus, yw ei bod hi i fyny i'r byrddau iechyd i ddatblygu eu rhaglenni eu hunain, ond mae hon yn her genedlaethol ac mae yna fuddiannau cenedlaethol i'w hennill yn fan hyn. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, ymrwymo i sefydlu cronfa genedlaethol a strategaeth genedlaethol fel ein bod ni'n gallu gweithio yn unedig, efo cefnogaeth lawn ac uniongyrchol y Llywodraeth fel ein bod ni'n gallu cyflawni'r nod iechyd cyhoeddus hollbwysig yma?
Wel, Llywydd, gallaf i weld y manteision o gael strategaeth genedlaethol, ond mae strategaeth genedlaethol a grŵp o bobl sy'n gweithio ar lefel genedlaethol gyda ni yn barod. Dwi ddim eisiau gweld cronfa genedlaethol. Os ydyn ni'n dechrau cael cronfa genedlaethol am hepatitis C, gallaf i weld lle bydd hynny'n mynd: bydd pob grŵp gyda phethau sy'n bwysig iddyn nhw—ac rydyn ni'n gwybod pam maen nhw'n bwysig iddyn nhw—yn dod ymlaen ac eisiau'r un peth. Strategaeth genedlaethol, wrth gwrs, ond mae gwasanaethau yn cael eu darparu trwy'r byrddau iechyd. Dyna'r system sydd gyda ni yma yng Nghymru. Rŷn ni'n dal i ddweud ein bod ni eisiau dod at 2030 gyda neb yn dioddef o hepatitis C yma yng Nghymru. Mae hynny'n uchelgeisiol, yn fwy uchelgeisiol, achos rydyn ni wedi cael profiad dros y ddwy flynedd diwethaf sydd wedi tynnu pobl mas o'r gwasanaeth. Ond rydyn ni'n dal i weithio gyda phobl yn y maes i drio dod at 2030 yn y sefyllfa roeddem ni wedi ei rhoi mas yn y strategaeth wreiddiol.
Prif Weinidog, clywais eich ateb blaenorol. Gwnaeth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon blaenorol argymhelliad penodol ynghylch ymgyrch genedlaethol ac, mewn ymateb i hynny, derbyniodd y Gweinidog ar y pryd yr argymhelliad hwnnw mewn egwyddor. Ond un o'r rhwystrau oedd nad oedden nhw'n gweld y dystiolaeth ar gyfer ymgyrch genedlaethol, ac yna dywedodd y Gweinidog y byddai angen iddyn nhw weld y dystiolaeth honno cyn y gellid cyflwyno ymgyrch genedlaethol. Pa fath o dystiolaeth fyddech chi'n disgwyl ei gweld i dderbyn yr argymhelliad hwnnw a chytuno mai ymgyrch genedlaethol yw'r ymateb priodol?
Llywydd, rwy'n gyfarwydd ag adroddiad y pwyllgor, a gyhoeddwyd yn 2019 wrth gwrs, ac mae'r pandemig wedi torri ar draws ei argymhellion—gwn fod yr Aelod yn deall hyn. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi cael rhywfaint o dystiolaeth genedlaethol bwysig iawn o ganlyniad i'r pandemig, oherwydd rydym ni wedi cael dros 1,000 o bobl a oedd yn ddigartref ar y stryd yn ôl yn 2019, pan ysgrifennwyd yr adroddiad hwnnw, y daethpwyd â nhw i mewn i lety oherwydd y camau a gymerwyd yn ystod y pandemig. Ac mae mwy na 1,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth bellach yn elwa o'r driniaeth newydd a weithredir yn genedlaethol, sef Buvidal. Yng nghyfarfod diweddaraf Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru, ymunodd Gweinidog Gwladol y Swyddfa Gartref, Kit Malthouse, â ni a dywedodd mai Cymru oedd y rhan fwyaf blaenllaw o'r Deyrnas Unedig o ran gwneud yn siŵr bod Buvidal yn cael ei ragnodi i bobl o dan yr amgylchiadau hynny, ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran hepatitis C yr ydym ni'n ei drafod y prynhawn yma. Felly, rydym ni wedi cael, yn anfwriadol ac nid yn y ffordd yr oedd y pwyllgor yn rhagweld, yr arbrawf cenedlaethol hwnnw, sy'n dangos ei bod hi'n bosibl gwneud cynnydd mewn rhai poblogaethau eithaf heriol, lle mae ymdrechion yn cael eu cydgysylltu a'u gweithredu gyda'r math o benderfyniad a welsom gan ein gwasanaethau digartrefedd o wynebu effaith pandemig.
Prif Weinidog, yn nigwyddiad yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C yma yn y Senedd yr wythnos diwethaf, cefais gyfle i siarad â Kieren, sy'n dod o Borthcawl yn fy etholaeth i, am y gwaith cefnogaeth gan gymheiriaid y mae ef ac eraill yn ei wneud ar draws ein cymunedau. Mae pobl fel Kieren yn gwneud gwahaniaeth i'r rhai sy'n agored i glefydau fel hepatitis C, a rhannodd ei brofiad o weithio ar lawr gwlad. Ac roedd yn drist iawn i mi ddarganfod, er bod cynnydd o ran profi a thrin clefydau fel HIV, bod llawer o stigma o hyd ynghylch clefydau fel hepatitis C sy'n atal pobl rhag cael eu profi. Gall y rhesymau pam y gall pobl fod yn agored i hepatitis C fod yn gymhleth iawn yn aml, ond cefais fy sicrhau gan Kieren, drwy'r gefnogaeth gan gymheiriaid, boed hynny mewn hosteli neu garchardai, ei fod yn gwneud gwahaniaeth ac yn lliniaru'r lledaeniad. Mae'n wirioneddol bosibl ei ddileu yn ystod ein hoes. Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C i'w ddadstigmateiddio a sicrhau bod cymunedau sydd fwyaf agored i niwed yn cael yr adnoddau i gael eu profi, eu trin a'u cynorthwyo?
Llywydd, rwy'n falch iawn bod yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C wedi ymestyn ei rhaglen i Gymru ac wedi penodi dau weithiwr i weithio yn y ffordd honno dan arweiniad cymheiriaid. Mae stigma yn sicr yn rhan o'r rhwystr i bobl ddod ymlaen i gael triniaeth ar gyfer hepatitis C, ac mae cyswllt person-i-berson gan rywun sydd wedi bod drwy'r broses ac sy'n gallu dangos ei llwyddiant yn ffordd y gallwn ni erydu hynny. Yma yng Nghaerdydd a'r Fro, mae'r cynllun 'Follow Me', sy'n gynllun arall rhwng cymheiriaid, bellach yn gweithredu, yn enwedig mewn gwasanaethau digartrefedd, ac, wrth iddo gael ei sefydlu, y bwriad yw y bydd wedyn yn hyfforddi gwirfoddolwyr cymheiriaid eraill mewn rhannau eraill o Gymru, eto yn rhan o'r ymgyrch honno i erydu'r stigma sy'n rhy aml yn gysylltiedig â'r clefyd ac yn atal pobl rhag dod ymlaen i gael cymorth.
Ac rydym ni'n gwybod, Llywydd, ei bod hi'n bosibl, fel y dywedodd Sarah Murphy, i wneud cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn. Carchar Abertawe oedd y carchar remánd cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael gwared ar hep C yn ôl yn 2019. Mae'r un technegau a ddefnyddiwyd yno bellach yn cael eu rhoi ar waith yn y gogledd yng Ngharchar y Berwyn, a sicrhawyd cyllid i ledaenu'r gwasanaeth hwnnw i garchar Caerdydd hefyd. Felly, rydym ni'n gwybod am bethau sy'n gweithio, ac mae'r enghraifft a roddodd Sarah Murphy i ni o berson yr oedd hi'n siarad ag ef yn un yn unig o'r enghreifftiau hynny o sut y gallwn ni wneud cynnydd yn y maes heriol hwn, ond un lle'r ydym ni'n gwybod y gellir llwyddo.