Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 10 Mai 2022.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? A gaf i ofyn iddo fynd gam ymhellach ac a wnaiff ef gondemnio'r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi, a chytuno nad oes unrhyw le iddo yng Nghymru ac yn sicr dim lle iddo yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru? A wnaiff Llywodraeth Cymru wrthod contractio gyda chwmnïau sy'n diswyddo ac ailgyflogi a gofyn i gyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru wneud yr un peth?