Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 10 Mai 2022.
Llywydd, mae'r cynllun adfer gofal arfaethedig, a gyhoeddwyd ar 26 Ebrill, yn ymrwymo i leihau amseroedd aros am therapi i 14 wythnos erbyn gwanwyn 2024. Mae'r rhestr aros ar gyfer gosod cymorth clyw i oedolion am y tro cyntaf wedi ei chynnwys yn yr ymrwymiad hwn, a bydd cynnydd yn erbyn yr uchelgais yn rhan o'r rhaglen adfer genedlaethol.