Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 10 Mai 2022.
Llywydd, yn 2012, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i greu llwybr pwrpasol ar hyd arfordir cyfan. Bydd rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau blwyddyn o hyd bellach yn dathlu'r cyflawniad hwnnw. Diolch i'r Aelod am arwain yr adolygiad annibynnol o lwybr arfordir Cymru, ac edrychaf ymlaen at gyhoeddiad ei adroddiad yfory.