Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 10 Mai 2022.
A gaf i alw, Trefnydd, am ddatganiad gan y Prif Weinidog ar ddiwygio'r Senedd? Bydd Aelodau'r Senedd yn ymwybodol, o'r drafodaeth yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog ac, yn wir, o ddatganiad i'r wasg a gyhoeddwyd y bore yma am chwarter wedi naw, fod y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru, i bob pwrpas, wedi rhwystro gwaith y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd a sefydlwyd gan holl Aelodau'r Senedd hon er mwyn ystyried diwygio'r Senedd hon yn y dyfodol.
Nawr, mae fy mhlaid i, wrth gwrs, bob amser wedi gwrthwynebu cynnydd yn nifer Aelodau'r Senedd, ond rydym ni wedi dweud yn gyson ein bod yn cydnabod bod mwyafrif o Aelodau'r Senedd yn dymuno gweld diwygio a bod mandad i gyflawni rhywfaint, ac ar y sail honno, gwnaethom ymuno â phwyllgor diwygio'r Senedd yn ddidwyll, er mwyn chwarae rhan adeiladol yn swyddogaeth a gwaith y pwyllgor hwnnw, er mwyn iddo allu gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru eu cyflawni. Mae hynny wedi ei danseilio heddiw. Mae gwaith y Senedd wedi ei danseilio heddiw, ac mae wedi bod yn amharchus o ran y ffordd y cyhoeddodd y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru y datganiad penodol hwnnw i'r wasg. Rwy'n credu bod arnom ni reidrwydd i roi datganiad yn y Siambr hon i bobl Cymru, lle y gellir croesholi'r Prif Weinidog ac, yn wir, arweinydd Plaid Cymru ynghylch eu cynigion ar gyfer diwygio er mwyn i ni allu dangos i bobl Cymru ein bod yn eu hystyried nhw yn briodol ac yn llawn. Mae'n amhriodol i'r pwyllgor hwnnw gael ei orfodi i sefyllfa ar sail trafodaethau clyd, a dweud y gwir, mewn swyddfeydd gweinidogol.
Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad ar fynediad at brofion diagnostig yng Nghymru? Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar sydd, yn anffodus, newydd gael diagnosis o ganser y brostad. Mae'n aros am sgan MRI; yn anffodus, ni all gael y sgan MRI hwnnw yn y gogledd, ac mae wedi cael ei atgyfeirio i Ysbyty Broadgreen yn Lerpwl oherwydd bod ganddo reolydd calon. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gapasiti o gwbl i unrhyw un yn y gogledd sydd â rheolydd calon gael sgan MRI, ac, o ganlyniad, ni all y dyn hwn, sy'n gwybod bod ganddo ganser, sy'n gwybod bod arno angen y sgan hwn er mwyn penderfynu ar y driniaeth sydd o'i flaen, gael y sgan hwnnw tan ddiwedd mis Mehefin. Mae hynny'n annerbyniol; mae'n gyfnod pryderus iawn i'r dyn hwn a'i deulu. A gaf i ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r angen am brofion diagnostig o'r math hwnnw, ac a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd er mwyn mynd i'r afael â'r mater? Diolch.