Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 10 Mai 2022.
Nawr, rwyf i yn cytuno â'r egwyddor sylfaenol bod rhaid i dai sy'n perthyn i gymdeithasau ac awdurdodau lleol fod mewn cyflwr da, deniadol a chyfanheddol, ond rwy'n credu y gallai rhai holi a yw safon ansawdd tai Cymru wedi gweithio hyd eithaf ei gallu. Mae canlyniadau arolwg y tenantiaid yn dweud llawer: dim ond 53.6 y cant o'r ymatebwyr a oedd o'r farn fod eu cartref nhw mewn cyflwr da; dim ond 60.3 y cant a oedd o'r farn fod eu cartref nhw'n bodloni gofynion penodol yr aelwyd; ac nid oedd 44 y cant wedi clywed erioed am safon ansawdd tai Cymru. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n amlinellu pa fesurau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod tenantiaid yn cael gwybod am y safonau hyn, a sut y maen nhw'n teimlo eu bod wedi eu grymuso i sicrhau'r newidiadau angenrheidiol.
Rwy'n ymwybodol hefyd, oherwydd rhai cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ddiweddar, sut weithiau, pan gynigir cyfle i denantiaid gael rhai gwelliannau—efallai mai system wresogi neu ffenestri newydd sydd dan sylw, ac fe wn i fod hyn wedi codi yn ein pwyllgor ni, ynghylch datgarboneiddio tai—fod tenantiaid weithiau ychydig yn amharod i ganiatáu i gontractwyr fynd i mewn. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn rhif 1 yw gofyn sut efallai y byddech chi yn y Llywodraeth yn gallu gwneud ein tenantiaid ni yn fwy ymwybodol o'r safonau hyn o ran ansawdd tai, a sut i fagu hyder y tenantiaid wedyn i ganiatáu i'r gwaith hwn gael ei wneud, oherwydd fe fydd o les mawr iddyn nhw.
Ar y llaw arall, rydych chi'n cytuno â mi, rwy'n siŵr, Gweinidog, fod rhai tenantiaid yn dweud eu bod nhw wedi bod yn aros hyd at 10 mlynedd i orffen rhai atgyweiriadau. Mae hi'n bwysig ystyried hefyd a yw SATC yn mynd ar drywydd gwaith atgyweirio ac adnewyddu sy'n rhesymol. Roeddech chi'n cyfeirio at loriau, effeithlonrwydd ynni a lleihau amlygiad i sŵn. Er hynny, mae tystiolaeth oddi wrth Linc Cymru, ClwydAlyn a Grŵp Pobl wedi tynnu sylw, er enghraifft, at y ffaith bod rhaid iddyn nhw newid y ceginau bob 15 mlynedd yng Nghymru, ond bob 20 mlynedd y mae angen newid y ceginau, sydd o'r un gwneuthuriad, yn Lloegr. Ystafelloedd ymolchi yn yr un modd, sef 25 mlynedd yng Nghymru a 30 mlynedd yn Lloegr. Nawr, mae'r cymdeithasau tai yn tynnu sylw mewn ffordd amlwg at y ffaith bod landlordiaid cymdeithasol Cymru yn gorfod talu gwerth miliynau o bunnau o gostau yn ddiangen. Felly, a wnewch chi edrych ar hynny, neu ymateb i hynny, ar gyfer ystyried a ellid rhyddhau cyllid i'w wario ar faterion eraill sy'n ymwneud â chartrefi cymdeithasol?
Mae'r arian yn achos pryder mawr. Mae landlordiaid cymdeithasol yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu cartrefi carbon isel er lles eu tenantiaid nhw, yr amgylchedd a'r blaned. Er hynny, maen nhw wedi egluro i'r pwyllgor newid hinsawdd y dylai materion o ran diogelwch fod â mwy o flaenoriaeth nag uchelgeisiau datgarboneiddio, os yw'r adnoddau yn brin. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy'n nodi y bydd £5.5 biliwn o gost i ôl-osod pob tŷ cymdeithasol i fodloni gradd tystysgrif perfformiad ynni yng Nghymru. Felly, fe fyddai hynny'n cyfateb i gyfartaledd o £24,000 y cartref. A ydych chi'n cytuno â chostau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, ac, os felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r cyllid hwn sydd ei angen? Mae Cartrefi Cymunedol Cymru hyd yn oed wedi datgan y bydd angen i fodel ariannu safon 2 ansawdd tai Cymru roi sicrwydd digonol i fyrddau pob landlord cymdeithasol y gellir bodloni'r safon heb beryglu amcanion y sefydliad arall.
Lle bwriedir gwneud gwaith, mae hi'n ffaith, fel soniais i'n barod, fod landlordiaid cymdeithasol yn wynebu gwrthsafiad gan denantiaid. Yn ôl astudiaeth y gronfa datgarboneiddio tai cymdeithasol, y prif faterion sy'n achosi gwrthwynebiad y tenantiaid yw bod ag ystafelloedd na ellir eu defnyddio yn ystod gwaith sydd ar 43 y cant; yr amser y bydd y gwaith yn ei gymryd, ar 45 y cant; y tarfu oherwydd sŵn y gwaith ar 60 y cant, ac mae eraill yn casáu unrhyw newid o gwbl ac mae'r gyfradd honno ar 62 y cant. Felly, er fy mod i'n sylweddoli bod gwrando ar leisiau dros 900 o denantiaid wedi digwydd, o gofio'r ystadegau hyn, sut ydych chi, wrth symud ymlaen, yn bwriadu cyflawni'r nod o sicrhau nad yw tenantiaid ar eu colled o ganlyniad i'r gwaith datgarboneiddio yn eu cartrefi nhw, ac y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd safonau ansawdd tai Cymru i'r graddau pryd y gall pob un o'n tenantiaid ni elwa ar hynny? Diolch i chi.