4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru 2

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 10 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:34, 10 Mai 2022

A gaf innau ategu geiriau Janet ynghynt, a dweud pa mor dda ydy o i weld y Gweinidog nôl, a'n bod ni wedi bod yn meddwl amdani a'i theulu yn ystod y cyfnod anodd diweddar? 

Ond diolch i'r Gweinidog am y cyhoeddiad heddiw. Wrth gwrs, mae gosod safonau ar ansawdd tai yn beth da iawn, ac mi rydyn ni wedi gweld gwella yn safon nifer o'n tai ni. Ond erys y ffaith bod canran fawr iawn o'r tai yn y sector cyhoeddus yn parhau i fod yn israddol. Mi ddaru'r Gweinidog ddweud ar ddechrau ei datganiad bod 99 y cant yn cyrraedd y safonau gwreiddiol ddaru gael eu gosod, ond mae bron i 55,000 o dai cyhoeddus yng Nghymru yn yr hyn y maen nhw'n ei alw'n 'compliant subject to acceptable fails'. Mae hyn yn bron i chwarter o'r stoc tai cyhoeddus. Rŵan, mae acceptable fails yn golygu nifer o wahanol bethau. Yn amlach na pheidio, mae'n golygu nad ydy rhywun yn medru fforddio i'w gael o i'r lefelau angenrheidiol. Felly, ydy'r Gweinidog yn meddwl bod hyn yn nifer derbyniol?

Mae ystadegau diweddar hefyd yn dangos ein bod ni'n gwybod, wrth gwrs, fod tua 15 y cant o'r stoc dai yn rhent preifat, a thua'r un nifer, neu ychydig yn fwy, 16 y cant, o'r stoc dai yn rhent cymdeithasol. Ond o'r rhai rhent cymdeithasol, mae 93 y cant ohonyn nhw yn dai sydd yn glir o beryglon—does yna ddim peryglon ynddyn nhw. Ond yn y stoc breifat, dim ond 75 y cant—tri chwarter ohonyn nhw—sy'n glir o beryglon. Hefyd, mi rydym ni'n gwybod bod perfformiad llawer iawn is o ran rhyddhau ynni a pherfformiad ynni yn y sector preifat. Felly, beth mae'r Gweinidog am ei wneud er mwyn cau'r bwlch yma rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus, er mwyn gwneud yn siŵr bod pob tŷ yng Nghymru yn cyrraedd y safonau gofynnol yma?

Tra bod camau wedi cael eu cymryd i sicrhau bod tai cyhoeddus yng Nghymru yn ynni effeithiol, fel rydyn ni wedi sôn, y gwir ydy nad ydyn nhw hyd yn oed yn cyrraedd y lefel angenrheidiol ar hyn o bryd. Mae ôl-ffitio yn parhau i fod yn her anferthol. Ac er fy mod yn croesawu eich bod chi wedi blaenoriaethu datgarboneiddio, y gwir ydy bod y costau i fynd i'r afael ag ôl-ffitio a datgarboneiddio yn anferthol. Fedrwch chi ddim disgwyl i'r sector tai cyhoeddus godi rhent er mwyn talu'r costau ôl-ffitio yna. Ac yn yr hinsawdd bresennol, efo costau adeiladu yn cynyddu mor aruthrol, mae hi'n mynd i fod yn anodd iawn i'r sector benderfynu a ydyn nhw'n mynd i adeiladu tai newydd ynteu ôl-ffitio. Felly, lle mae'r sector am gael y pres ychwanegol angenrheidiol yna er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd y safonau gwresogi yna?

Yna, wrth edrych ar yr ymgynghoriad newydd rydych chi'n ei gyflwyno, mae'n rhaid i ni gofio bod Cymru 2023 yn wahanol iawn i Gymru 2002. Ac un o'r hanfodion newydd, wrth gwrs, yn yr oes yma ydy band eang. Gaf i ofyn wedyn a fyddwch chi, yn ystod eich ymgynghoriad, yn fodlon ystyried gofyn y cwestiwn ynghylch pa mor bwysig ydy cael mynediad i fand eang a sicrhau bod band eang ar gael ym mhob tŷ fel rhan o'r safonau hynny?

Yn ogystal, mae cymdeithas, o'r diwedd, yn dod i werthfawrogi bod gan bawb yr hawl i dŷ sydd yn addas i bwrpas, a phawb â'u hanghenion gwahanol nhw—rhai, wrth gwrs, efo clefydau, rhai efo rhywbeth fel motor neurone disease, rhai'n methu â gweld yn glir, efo nam ar eu llygaid, rhai'n methu â symud, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Pa waith ydych chi felly, fel Llywodraeth, yn ei wneud er mwyn adnabod anghenion pobl sydd efo'r gwahanol anghenion yma, a sicrhau bod hyn yn rhan o'r ystyriaeth wrth ein bod ni'n symud ymlaen i safon tai Cymru 2?

Ac yn olaf yr un pryd byddwch chi hefyd yn gwerthfawrogi bod safon byw mewn tŷ nid yn unig yn ddibynnol ar frics a morter; mae'n ddibynnol ar y gwasanaethau sydd ar gael hefyd. Felly, yn yr ymgynghoriad yma ar gyfer safon tai Cymru 2, a fyddwch chi hefyd yn fodlon ystyried yr angen i edrych ar gael mynediad at wasanaethau o ran trafnidiaeth gyhoeddus a pha mor hawdd ydy hi i bobl fyw yn y cymunedau hynny lle mae'r tai am gael eu hadeiladu? Diolch yn fawr iawn.