6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Etholiadau Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 10 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:11, 10 Mai 2022

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Mae canlyniadau wythnos diwethaf yn fy marn i yn tanlinellu unwaith eto fod y gyfundrefn cyntaf i'r felin o safbwynt pleidleisio ddim yn gweithio. Dŷn ni wedi gweld enghraifft yng Nghaerdydd fan hyn o Blaid Cymru'n cael 17 y cant o'r bleidlais ac yn ennill dwy sedd, a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael 13 y cant o'r bleidlais ac yn ennill 10 sedd. Nawr, dwi ddim yn gwneud pwynt pleidiol wleidyddol fan hyn, achos dwi'n gwybod mi fyddai yna rannau eraill o Gymru lle byddai fy mhlaid i ar ei cholled petaem ni yn mabwysiadu system fwy cyfrannol, ond a fyddech chi, Gweinidog, yn cytuno â fi ei bod hi nawr yn amser inni symud unwaith ac am byth o'r gyfundrefn cyntaf i'r felin, fel rŷn ni, gobeithio, yn mynd i weld fan hyn fel Senedd? Dwi'n gwybod bod yna fodd i awdurdodau lleol fabwysiadau modelau mwy cyfrannol, ond pan fo un blaid yn ennill dwy ran o dair o seddi yng nghyngor y brifddinas lle rŷn ni heddiw, does yna ddim cymhelliad yn fanna i newid y gyfundrefn, oes e? Felly, beth ŷch chi fel Llywodraeth yn mynd i'w wneud i fod yn fwy rhagweithiol i wneud i'r newid yma ddigwydd, yn hytrach na jest gadael i'r awdurdodau lleol ddewis a dethol ac efallai yn y diwedd bydd rhai yn, rhai ddim a bydd hynny'n waeth nag unrhyw beth. Felly, byddwn i'n licio clywed eich ymateb chi i hynny.

Dwi'n meddwl mai stori fawr yr etholiadau lleol yr wythnos diwethaf yw'r creisis sydd wedi amlygu ei hun o safbwynt cynghorau bro a thref yng Nghymru. Mae'r niferoedd isel eithriadol o bobl oedd wedi eu rhoi eu hunain ymlaen, yn sicr yn yr ardal dwi'n byw ynddi ac yn ei hadnabod orau, wedi fy mrawychu i, a dweud y gwir, a chyn lleied o gynghorau bro a thref oedd ag unrhyw fath o etholiadau. Wrth gwrs, beth rŷn ni'n gweld yw niferoedd llai a llai, felly, yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad a bod y rheini wedyn yn gallu cyfethol mwy a mwy o bobl sy'n dwysau y deficit democrataidd rŷn ni eisiau mynd i'r afael ag e. Dwi ddim yn gwybod a oes bwriad gyda chi fel Llywodraeth i edrych yn benodol ar hyn. Yn amlwg, mae angen edrych ar a dadansoddi rhai o'r ffigurau, ond dwi hefyd eisiau deall beth yw'r rhesymau pam fod cyn lleied o bobl nawr eisiau rhoi eu hunain ymlaen ar gyfer y ffas lo agosaf sydd gennym ni i'n cymunedau, y lefel bwysicaf, gallech chi ddadlau, mewn sawl ffordd yn hynny o beth.

A hefyd, wrth gwrs, rŷch chi fel Llywodraeth wedi creu statws ar gyfer cynghorau cymuned cymwys—eligible community councils—lle mae gofyn bod dwy ran o dair o'r cyngor wedi cael ei hethol i fod yn gymwys. Felly, ble mae hwnna'n gadael y cynghorau hynny lle does dim digon o bobl wedi rhoi eu hunain ymlaen, a beth ŷch chi'n meddwl yw'r oblygiadau iddyn nhw yn hynny o beth?

Dwi hefyd yn croesawu'r ffaith bod dim rhaid cyhoeddi cyfeiriadau ymgeisyddion, ond mae yna broblem, dwi'n meddwl, yn mynd i godi yn sgil hynny nawr, oherwydd mae rhai ymgeisyddion yn cyhoeddi a rhai ddim. I'r rhai sydd ddim, dwi'n ofni—beth roeddwn i'n ei glywed nôl gan etholwyr oedd, 'O, maen nhw'n trio cuddio'r ffaith eu bod nhw ddim yn byw yn lleol.' Dwi'n ofni bod y rhai oedd â rhesymau cwbl ddilys dros beidio â chyhoeddi eu cyfeiriad yn cael eu pardduo gan y dybiaeth annheg yna. Felly dwi ddim wedi meddwl yn ddigonol am hyn, ond efallai fod angen inni sicrhau bod neb yn cyhoeddi cyfeiriadau, rhag ofn bod rhai pobl yn cael eu pardduo oherwydd, efallai, fod rhai yn cuddio yn fwriadol am resymau etholiadol yn hytrach na rhesymau personol dilys.

Yn olaf, dwi'n falch, wrth gwrs, fod y Llywodraeth yn treialu dulliau gwahanol o safbwynt pleidleisio, a byddwn i eisiau gwneud mwy o hynny yn sicr, ond mae tyrnowt yn dal i ddisgyn mewn ardaloedd yn fwy na fydden ni'n dymuno. Mae e yn profi i fi, y ffaith bod y tyrnowt yn dal i ddisgyn, fod angen mynd llawer ymhellach na'r hyn rŷn ni wedi ei weld, a dwi'n siŵr bod bwriad gan y Llywodraeth i wneud hynny gydag amser, ond onid yw'r amser nawr wedi dod inni symud yn wirioneddol tuag at bleidleisio electronig? Mi oedd pobl 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf. Roeddwn i'n siarad â nifer fawr ohonyn nhw wrth ymgyrchu, a, bron yn ddieithriad, y cwestiwn a oedd yn cael ei ofyn i fi oedd, 'Ydyn ni'n gallu gwneud hynny'n electronig?', 'Oes yna ap ar gyfer gwneud hynny?', a bob tro, roeddwn i'n gorfod dweud, 'Na. Rŷch chi'n gorfod ffeindio ffordd o fynd i'r blwch pleidleisio er mwyn taro'ch pleidlais ar bapur, gyda phensil.' Wel, chi'n gwybod, roedd yr edrychiad roeddwn i'n ei gael yn ôl cystal â dweud, 'Wel, ym mha oes ydyn ni'n byw?' Felly, beth yw bwriad y Llywodraeth nawr? Ydych chi o ddifrif ynglŷn â symud i'r cyfeiriad yma neu beidio? Gallaf i wneud fy nhrethi gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae yna gwestiynau diogelwch, wrth gwrs, ond, os gallaf i wneud pethau fel yna, dyw e ddim y tu hwnt i allu unrhyw un i symud i'r cyfeiriad yna, ac mae'r amser wedi dod i ni wneud hynny nawr.