Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 11 Mai 2022.
Fe ddylwn i fod yn gwybod erbyn hyn. Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, felly mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn, ac mae gwelliant 2, felly, yn cael ei ddad-dethol.