9. Dadl Fer: Llwybrau o atgyfeiriadau i ddiagnosis a thu hwnt: yr heriau o fyw gydag awtistiaeth a chyflyrau niwroamrywiol eraill

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 11 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 5:45, 11 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Felly, yn gyntaf, gadewch imi ailddatgan fy ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn, person ifanc ac oedolyn niwroamrywiol, ynghyd â'u rhieni a'u gofalwyr, yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a'r gofal sydd ei angen arnynt. Mae llawer i'w wneud, rwy'n cydnabod hynny'n llwyr, ond rydym wedi cymryd camau breision i symud ymlaen, ac mae hyn yn cynnwys llwyddiant y gwasanaeth awtistiaeth integredig sy'n darparu gwasanaethau asesu a chymorth i oedolion a chymorth i deuluoedd, a chefnogir hyn gan £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.

Cyflawnwyd ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gyflwyno cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth hefyd, cod a ddaeth yn weithredol ar 1 Medi y llynedd, ac rydym yn gweld ymrwymiad clir gan sefydliadau statudol i groesawu'r cod a gwella gwasanaethau a chymorth yn rhagweithiol. Mae ein tîm awtistiaeth cenedlaethol yn gweithio'n uniongyrchol gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol i'w helpu i ddatblygu seilwaith awtistiaeth a phenodi hyrwyddwr awtistiaeth ym mhob ardal. Mae'r cod wedi rhoi sylfaen inni allu gwneud newid gwirioneddol a gwella gwasanaethau ar gyfer awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol eraill.

Wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid pan oeddem yn datblygu'r cod, fe wnaethom wrando pan ddywedwyd wrthym, er gwaethaf y cynnydd a wnaed mewn gwasanaethau awtistiaeth, fod llawer o bobl â chyflyrau niwroddatblygiadol eraill a'u teuluoedd a'u gofalwyr yn dal i'w chael yn anodd cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, er bod eu hanghenion yn aml yn debyg neu'n cyd-ddigwydd ag awtistiaeth. Adleisiwyd y sefyllfa hon yn fy nghyfarfod â rhieni plant ag ADHD a syndrom Tourette's.

Felly, dyma pam ein bod yn ehangu ein dull o weithredu, o ganolbwyntio ar awtistiaeth i geisio gwelliannau ar draws y cyflyrau niwroddatblygiadol, felly mae gennym dîm polisi pwrpasol bellach sy'n gweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, yn cysylltu'n agos â chydweithwyr ym maes addysg. Mae ein tîm awtistiaeth cenedlaethol hefyd yn ehangu ei gylch gwaith a'i arbenigedd i ddarparu cyngor ar draws y cyflyrau niwroddatblygiadol, ac rydym am sicrhau bod y cynnydd a wnaed gydag awtistiaeth yn cael ei ymestyn i'r cyflyrau eraill a'u bod i gyd yn gweithio gyda'i gilydd, a chredaf fod hwnnw'n ddatblygiad pwysig iawn. Fe wyddom, ac mae nifer o'r Aelodau wedi crybwyll hyn yn y ddadl heddiw, fod gwasanaethau asesu'n profi galw cynyddol gydag amseroedd aros hir ar draws y gwasanaethau plant ac oedolion, ac mae angen llwybrau gwasanaeth newydd ar gyfer rhai cyflyrau. Felly, er mwyn deall y maes cymhleth hwn yn well a nodi opsiynau ar gyfer gwella, comisiynwyd adolygiad gennym y llynedd o'r galw a chapasiti gwasanaethau niwroddatblygiadol ac mae'r awduron bellach wedi cyflwyno eu canfyddiadau i mi. Rwy'n ystyried adroddiad terfynol yr adolygiad ar hyn o bryd, adolygiad sydd wedi darparu tystiolaeth gref o'r angen am raglen wella i sefydlu gwasanaethau cynaliadwy sy'n hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio. A chredaf fod Hefin wedi sôn am bwysigrwydd y gefnogaeth sydd ei hangen wrth i chi aros am ddiagnosis, a theimlaf fod hynny'n gwbl allweddol.

Fe ddof yn ôl at fy nghyd-Aelodau'n fuan pan fyddwn yn cyhoeddi'r adolygiad a byddaf yn gwneud cyhoeddiad am y camau gweithredu tymor canolig a hirdymor y byddwn yn eu cymryd i gefnogi gwelliannau. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu ar frys i leihau'r pwysau ar wasanaethau asesu a rhoi cymorth a chefnogaeth gynnar ar waith i deuluoedd sydd angen cymorth yn awr.

Mae'n bwysig cydnabod y bydd diwygio gwasanaethau niwroddatblygiadol yn adeiladu ar lwyddiannau'r rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc a'i ffrwd waith niwroddatblygiadol, sy'n dod i ben ddiwedd mis Medi eleni. Rhaid imi ddiolch i bawb a fu ynghlwm wrth hynny am bob dim y maent wedi'i wneud. Rydym yn gweithio i sicrhau pontio llyfn o'r rhaglen i sicrhau bod yr holl arferion da yn cael eu cofnodi a bod y cysylltiadau cryf a ffurfiwyd gan dîm y rhaglen yn cael eu cynnal a'u cryfhau ymhellach.

Caiff polisi a darpariaeth yn y dyfodol eu cydgynllunio gydag unigolion a theuluoedd sydd â phrofiad byw o gyflyrau niwroddatblygiadol. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd arolwg gennym drwy ein rhwydweithiau a chyfryngau cymdeithasol i gasglu profiadau cyfredol y rhai sy'n ceisio cael asesiad a chymorth ar restr aros neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau. Roedd yr arolwg yn fyw am dros wyth wythnos a chawsom dros 370 o ymatebion. Rydym yn adolygu'r adborth a ddaeth i law ar hyn o bryd, ac mae un thema gynnar a nodwyd yn atgyfnerthu'r angen am well cymorth cyn ac ar ôl diagnosis, rhywbeth a gaiff ei adlewyrchu yng nghanfyddiadau'r adolygiad o'r galw a chapasiti. 

Maes allweddol arall yn yr adborth gan rieni yw cymorth mewn ysgolion, a soniwyd am hynny, a soniodd Hefin am hynny'n rymus iawn heddiw. Gwnaeth y ffigurau argraff fawr arnaf: 76 y cant o blant awtistig yn cael eu bwlio yn yr ysgol; 20 y cant o waharddiadau. Teimlaf yn gryf fod yn rhaid inni fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae rôl addysg yn cefnogi plant a phobl ifanc niwroamrywiol yn gwbl allweddol. Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ym maes addysg sy'n cyflawni gwelliannau drwy'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol er mwyn sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc niwroamrywiol yn cael eu cydnabod, a bod gan staff wybodaeth a sgiliau i'w cefnogi. Gwnaeth yr hyn a ddywedodd y rhieni yn y grŵp y cyfarfûm â hwy a oedd â phlant ag ADHD gryn argraff arnaf, a'r sôn hefyd am ba mor allweddol yw'r ffordd y mae'r ysgol yn ymateb i'r plant hynny, a'r gwahaniaeth a wnâi i'w bywydau. 

Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â dwy ysgol yr wythnos nesaf yn ardal sir Gaerfyrddin sy'n gweithio'n galed i gefnogi disgyblion niwroamrywiol i wneud y gorau o'u potensial ac ehangu'r cyfleoedd iddynt. Mae un o'r ysgolion wedi derbyn gwobr yn ddiweddar gan y Sefydliad ADHD am ei gwaith, ac rydym am rannu profiad yr ysgol honno, oherwydd credaf fod llawer o ffyrdd y gallai ysgolion symud tuag at fod yn ystyriol o ADHD; byddai'n gwneud cymaint o wahaniaeth. 

Ac rwyf hefyd am gydnabod rôl y trydydd sector, sydd wedi bod yn allweddol yn y cynnydd a wnaethom gyda'r cod ymarfer awtistiaeth, a bydd iddo rôl ganolog yn ein diwygiadau niwroddatblygiadol, yn enwedig mewn perthynas â darparu gwasanaethau cymorth cyn ac ar ôl diagnosis.

Felly, i gloi, erbyn diwedd tymor y Senedd hon, rydym am lwyddo i leihau'r pwysau sy'n effeithio ar wasanaethau niwroddatblygiadol, a sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael cymorth a chefnogaeth gynnar yn gyflym, yn ogystal ag asesiadau amserol. Felly, rydym am i blant, pobl ifanc ac oedolion niwroamrywiol deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u harfogi i ymateb i heriau bywyd bob dydd yn awr ac yn y dyfodol. Hoffwn orffen eto drwy ddiolch i Hefin am gyflwyno'r ddadl hon, ac am gyfraniadau Laura Anne a Mark. Diolch.