Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 11 Mai 2022.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac rwy'n siŵr yr hoffech ymuno â mi ac eraill yn y Siambr hon i gydnabod pwysigrwydd yr wythnos hon i godi proffil y rheini sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl, ac i'w cynorthwyo i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt gan sefydliadau y maent angen iddynt wrando, fel nad oes gennym bobl ledled Cymru yn dioddef yn dawel. Weinidog, a allwch gadarnhau pa gymorth y mae’r Llywodraeth wedi’i roi i sefydliadau trydydd sector i’w helpu i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r wythnos hon, a pha gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i’r afael â thema eleni, sef unigrwydd?