Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 11 Mai 2022.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae dysmorffia'r corff yn broblem enfawr y mae llawer o bobl ledled y wlad yn ei hwynebu. Mae llawer o bobl ifanc yn nodi'r broblem o gael eu peledu'n gyson ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddelweddau sydd wedi’u golygu â ffilteri, gan roi syniad camystumiedig o beth yw'r gwirionedd i lawer o bobl ifanc. Y gobaith yw y bydd y Bil diogelwch a niwed ar-lein a gynigir gan Lywodraeth y DU yn gwneud rhywfaint i fynd i’r afael â’r materion hyn. Gwn nad yw materion digidol yn faes lle mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli, ond mae’r holl wasanaethau cymorth ar gyfer pobl ifanc wedi eu datganoli. Felly, a allwch gadarnhau pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i bobl ifanc sy'n dioddef o ddysmorffia'r corff, ac a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Bil diogelwch a niwed ar-lein sy'n mynd drwy Senedd y DU?