Presgripsiynu Cymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 11 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:11, 11 Mai 2022

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog, a dwi'n falch o'ch clywed yn cyfeirio at y fframwaith, sydd wrth gwrs yn rhan o'r rhaglen lywodraethu. Dwi'n siŵr gall nifer ohonom ni gyfeirio at brosiectau rydyn ni'n ymwybodol ohonyn nhw yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau sydd yn dangos gwerth presgripsiynu cymdeithasol o ran iechyd a lles pobl rydym yn eu cynrychioli, ac nid dim ond y rhai sy'n teimlo'n ynysig, fel y cyfeirir ati yn y rhaglen lywodraethu. Ond yn amlwg, nid dim ond byrddau iechyd sydd yn rhan o'r gwaith hwn. Mae gan sefydliadau megis Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, Theatr Clwyd ac ati, brosiectau a phartneriaethau gwych yn y maes hwn. Ac felly, gaf i holi, wrth ichi ddatblygu'r fframwaith yma, pa mor ganolog fydd y cyrff tu hwnt i'r sector iechyd, megis rhai diwylliannol, o ran gwireddu llawn botensial presgripsiynu cymdeithasol ym mhob rhan o Gymru?