Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 11 Mai 2022.
Nid ydym yn cadw'r data ar ganran y cysylltiadau a ddigwyddodd wyneb yn wyneb. Drwy gydol y pandemig, cynhaliwyd y rhan fwyaf o gysylltiadau ymwelwyr iechyd gan ddefnyddio telefeddygaeth i helpu i leihau cyfraddau trosglwyddo. Cyhoeddir data ar raglen Plant Iach Cymru bob chwarter, yn fwyaf diweddar ar gyfer y cyfnod o fis Gorffennaf i fis Medi 2021.