Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 11 Mai 2022.
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n deall, Lywydd, eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 1 ac 8 gael eu grwpio.
Mae'r fframwaith economaidd rhanbarthol drafft yn tynnu sylw at sut y bydd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn parhau i ddenu buddsoddiad mawr i ardal Casnewydd. Yn ogystal, mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda chyngor Casnewydd a'r prifddinas-ranbarth i ddarparu'r seilwaith a'r cymorth i fusnesau er mwyn datblygu economi Casnewydd ymhellach.