Undebau Credyd

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 11 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:27, 11 Mai 2022

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. Fel Aelod sydd wedi'i ethol dros y Blaid Gydweithredol, roeddwn i'n meddwl y buasai gennych ddiddordeb penodol yn y maes undebau credyd. Ond, mae yna bwrpas economaidd i'r cwestiwn hefyd. Mae gan undebau credyd botensial aruthrol, wrth gwrs, i wyrdroi economi Cymru. Eisoes, mae ganddyn nhw bron i 80,000 o aelodau yma yng Nghymru, gan fenthyg allan £23 miliwn y flwyddyn. Ond dydy hyn ddim yn agos i gymharu ag Iwerddon, ble mae 61 y cant o boblogaeth y wlad honno yn aelodau o undebau credyd. O ganlyniad, yn Iwerddon, maen nhw'n medru defnyddio grym yr undebau credyd i symbylu'r economi. Yno, mae cynghrair yr undebau credyd wedi cyfrannu biliynau o ewros i helpu'r Llywodraeth adeiladu miloedd o dai, gan sicrhau swyddi yn y diwydiant am chwe mlynedd. Ydych chi, felly, yn gweld bod gan yr undebau credyd yma rôl i'w chwarae wrth symbylu ein heconomi ni? A pha gamau y gall y Llywodraeth eu cymryd er mwyn sicrhau eu bod nhw'n chwarae rhan mwy canolog wrth ddatblygu economi Cymru?