Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 11 Mai 2022.
Cynhaliodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol gyfarfod bord gron gyda'r holl Weinidogion sydd â diddordeb portffolio ym mis Chwefror, ac eto yn gynharach yr wythnos hon, i drafod canlyniad y ddau ymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad technegol cyn bo hir.