Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 11 Mai 2022.
Gwnaf. Mae dros 60 y cant o'r datblygiad SA1 bellach wedi'i ddatblygu, ac mae 90 y cant o'r tir datblygu sy'n weddill wedi'i werthu. Mae'r holl seilwaith cyhoeddus mawr wedi'i osod, ac mae trafodaethau ar y gweill gyda dwy gymdeithas dai leol ar gyfer datblygiadau preswyl pellach, ac mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn parhau â'i champws newydd yng nghanol y ddinas gyda datblygiad cydweithredu newydd o'r enw Matrix, fel y gŵyr yr Aelod, rwy'n siŵr.