Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 11 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:37, 11 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed mwy o gyhoeddiadau dros y flwyddyn nesaf. Ond mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain ar hyn o bryd, pan fyddwn yn cymharu â'r portffolios eraill. Yn amlwg, fel y byddech yn ei ddisgwyl, rydym wedi gweld 301 o gyhoeddiadau ar y coronafeirws, ond 51 ar gymunedau ac adfywio. Mae diwylliant a chwaraeon a'r celfyddydau yn haeddu cael eu clywed yma, ac os nad ydym yn llafar ac yn eu trafod yma, ni chânt eu gweld fel pethau canolog i dwf ac adferiad ar ôl y pandemig, fel y gwn eich bod yn credu eu bod.

Roeddwn yn ddigon ffodus y bore yma i ymweld â stiwdios Bad Wolf a Chynghrair Sgrin Cymru. Roedd yn wych clywed am yr holl waith sy'n cael ei wneud i ddarparu porth rhwng y diwydiant ffilm a theledu a'i weithlu, ochr yn ochr â darparu llwybrau amgen. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau fel Cynghrair Sgrin Cymru, i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i bobl o bob rhan o Gymru, ac o bob cefndir, weithio yn y diwydiannau creadigol a'r sector diwylliannol?