Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 11 Mai 2022.
Diolch, Weinidog. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi bod yn anrhydedd cyfarfod â chynifer o fentrau cymdeithasol ledled y rhanbarth a gweld y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud o ran adfywio ein cymunedau, cefnogi pobl o bob oed a datblygu'r economi leol. Gaf i ofyn pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion eraill i sicrhau bod mentrau cymdeithasol a'r economi gymdeithasol yn bethau sy'n cael eu hyrwyddo ar draws portffolios Llywodraeth, megis drwy'r cwricwlwm newydd?