Busnesau'r Stryd Fawr

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 11 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:58, 11 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi gwerth £136 miliwn yn canolbwyntio ar arallgyfeirio a thwf cynaliadwy yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd. Mae nifer o'r ymyriadau'n cynnwys ailddefnyddio adeiladau adfeiliedig a gwag—clywsom rywfaint am hynny mewn cwestiynau blaenorol ynghylch Casnewydd—gan gynyddu amrywiaeth a mynediad at gyfleusterau hamdden, gwasanaethau a lleoliadau gweithio hyblyg, gofod defnydd cymysg a gwell seilwaith gwyrdd.