Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 11 Mai 2022.
Diolch am y cwestiwn. Mae fy swyddogion, ynghyd â swyddogion o'r awdurdod lleol a'r Adran Gwaith a Phensiynau, yn gweithio gyda'r gweinyddwyr enwebedig i sicrhau, cyn belled ag y bo modd, ein bod yn gallu diogelu buddiannau pawb, gan gynnwys, wrth gwrs, y rhagolygon cyflogaeth ar gyfer y safle yn y dyfodol.