Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 11 Mai 2022.
Fel y saif pethau, hyd yn oed cyn y pandemig, roedd miloedd yn aros dros flwyddyn am driniaeth. Mewn gwirionedd, dyblodd y ffigur hwnnw yn y flwyddyn cyn y pandemig. Roedd adrannau damweiniau ac achosion brys a gwasanaethau ambiwlans eisoes yn teimlo’r pwysau bob gaeaf, ac roedd gweithlu’r GIG eisoes yn wynebu heriau sylweddol a phrinder staff. Felly, erbyn hyn yn anffodus, mae gennym yr hyn sy'n cyfateb i un o bob pump o boblogaeth Cymru ar restr aros. Mewn gofal brys, disgwylir i un o bob tri chlaf, sy’n nifer uwch nag erioed, aros mwy na phedair awr i gael eu gweld mewn adran damweiniau ac achosion brys, ac nid yw targedau amser ymateb ambiwlansys wedi’u cyrraedd ers bron ddwy flynedd. Mae’r rhain, wrth gwrs, yn ystadegau torcalonnus, ond y tu ôl i bob ystadegyn, wrth gwrs, mae pobl go iawn sydd angen i gynllun adfer diweddaraf y Llywodraeth weithio, ac rwy'n gobeithio y bydd yn gweithio. Mae'n bwysig, fel gwrthblaid, ein bod yn tynnu sylw at fethiannau'r Llywodraeth, ond hefyd yn cyflwyno ein hatebion ein hunain, a dyna y byddaf yn ei wneud yn ddiweddarach yn y ddadl hon heddiw.
Un o’r problemau mawr y mae angen mynd i’r afael â hwy ar frys yw oedi wrth drosglwyddo gofal. Yn ddiau, wrth gwrs, mae hyn wedi'i waethygu gan y pandemig, ond roedd problemau hirsefydlog yn bodoli ymhell cyn y pandemig. Unwaith eto, nid ystadegau yn unig yw'r achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal; y tu ôl i bob achos o oedi wrth drosglwyddo gofal, ceir unigolyn nad yw wedi cael y gofal a’r cymorth y mae eu hangen i’w alluogi i ddychwelyd adref neu fynd i lety priodol. Mae aelodau’r teulu a gofalwyr di-dâl yn cael eu rhoi yn y sefyllfa amhosibl o adael eu hanwyliaid yn yr ysbyty am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol, neu ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu pellach nad ydynt o reidrwydd yn gallu ymdopi â hwy, yn aml ar draul eu hiechyd a'u lles eu hunain. Mae'n gwbl annerbyniol fod 1,000 o bobl mewn gwelyau ysbyty pan allent fod wedi cael eu rhyddhau.
Wrth gwrs, mae’n dra hysbys fod aros yn yr ysbyty yn hirach nag sydd angen yn niweidiol i’r claf, yn enwedig cleifion hŷn, a bod rhyddhau cleifion heb gymorth priodol yn ei le yn creu galwadau afresymol ar deuluoedd ac yn creu risgiau i ddiogelwch yr unigolyn, gan gynyddu'r tebygolrwydd o fynd yn ôl i'r ysbyty—felly, nid yw'n torri’r cylch hwnnw. Mae gennym bwysau digynsail, wrth gwrs, ar y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a gofalwyr di-dâl hefyd, ac wrth gwrs, rwy'n credu y dylid diolch iddynt am bopeth a wnaethant ac y maent yn parhau i'w wneud. Problem arall yma hefyd, serch hynny, yw’r cyfathrebu gwael, y diffyg integreiddio a gweithio cydgysylltiedig, ymhlith rhai o’r problemau eraill y mae’n rhaid mynd i’r afael â hwy os ydym am sicrhau gwelliannau i lif cleifion drwy ein hysbytai yng Nghymru.
Yn gwbl warthus, mae perfformiad cenedlaethol yn erbyn y targed 62 diwrnod ar gyfer amseroedd aros canser yn parhau i fod gryn dipyn yn is na’r hyn y dylai fod, a chyn y pandemig, roedd gan Gymru amseroedd aros gwael eisoes ar gyfer triniaethau rheolaidd. Mae’n destun pryder nad yw targedau amseroedd aros canser wedi’u cyrraedd ers 2008. Yn ychwanegol at hyn, mae amseroedd aros ar gyfer targedau diagnosis canser allweddol yn dal i fod yn hir iawn, er gwaethaf cynnydd yn y misoedd diwethaf, ac mae targedau Llywodraeth Cymru na ddylai cleifion aros am fwy nag uchafswm o wyth wythnos am ddiagnosis, yn dal heb eu cyrraedd.
Mae yna rai meysydd rwy'n croesawu rhywfaint o gynnydd gan y Llywodraeth arnynt. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi dechrau ar hybiau llawfeddygol rhanbarthol, rhywbeth y bûm yn galw amdano ers amser maith, wrth gwrs. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith inni gael y cynllun adfer ym mis Ebrill. Ond hyd yn hyn—rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog ddweud wrthyf fy mod yn anghywir ynglŷn â hyn—manylion ar gyfer cyflwyno'r hybiau llawfeddygol hynny yn ne Cymru yn unig a welsom. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog roi amserlen i ni ynghylch pryd y byddwn yn gweld yr hybiau llawfeddygol hynny'n cael eu cyflwyno ledled gweddill Cymru? Pryd y byddant ar waith yn llawn? Mae hyn yn bwysig iawn, wrth gwrs, i'r rheini sy'n dioddef o gyflyrau eraill a COVID hir, ac wrth gwrs, unwaith eto, bydd yn lleddfu rhywfaint o'r pwysau ar ysbytai.
Dywedais y byddwn yn darparu rhai atebion fy hun hefyd. Yn sicr, mae angen inni wella mynediad at apwyntiadau gofal sylfaenol a newid y canllawiau presennol ar frysbennu dros y ffôn. Bydd hyn yn lleihau nifer y cleifion sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae angen inni ddyblu ein hymdrechion i recriwtio parafeddygon yn gyflym. Rwy’n deall bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 136 o recriwtiaid newydd, a bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi ymrwymo i recriwtio 127 arall eleni. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddi bod yn allweddol fod Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ar gyfer recriwtio cyflym i lenwi unrhyw fylchau posibl. Ysgogwch aelodau o’r cyhoedd a chyn-weithwyr gofal iechyd proffesiynol i ymuno â’u tîm GIG lleol fel staff wrth gefn rhan-amser i gefnogi’r GIG mewn cyfnodau o alw mawr. Sefydlwch lwybrau cymorth i staff y GIG a gweithwyr gofal a theuluoedd sydd wedi dioddef trawma yn ystod y pandemig. Lluniwch gynllun ac amserlen i godi cyflogau gweithwyr gofal. Bydd hyn, wrth gwrs, yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar weithwyr gofal, a bydd hefyd, o bosibl, yn cadw mwy o weithwyr yn y sector i helpu gyda rhyddhau cleifion o’r ysbyty. Mae honno’n elfen allweddol sy'n rhaid rhoi sylw iddi. Hefyd, cyfathrebu clir a rheolaidd â chleifion ynglŷn â rhestrau aros, yn ogystal â’r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael ac ymgyrch iechyd y cyhoedd i sicrhau diagnosis cynt o ganserau.
Ni allwn edrych ar y tymor byr yn unig. Dyma pam y byddwn yn awgrymu cynlluniau ar gyfer y tymor hir, a fyddai’n cynnwys canolbwyntio ar yr amser ar gyfer triniaethau, fel bod ambiwlansys ac ysbytai'n gweithio’n agosach i ddarparu gofal amserol. Byddwn hefyd yn awgrymu datblygu cynllun clir, dan arweiniad clinigol, ar gyfer GIG Cymru i fynd i'r afael ag ôl-groniad y rhestrau aros, a defnyddio cyfleusterau trawsffiniol ac annibynnol hefyd. A heb anghofio COVID-19, dylem anelu at sefydlu clinigau COVID hir i gefnogi pobl sy’n dioddef effeithiau hirdymor COVID-19. Credaf hefyd fod angen inni adeiladu ar gynllun 10 mlynedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol drwy gyflwyno cynllun recriwtio, hyfforddi a chadw staff ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol cyfan. Mae angen inni gynyddu nifer y meddygon a nyrsys a gweithwyr gofal yn sylweddol, er enghraifft drwy gynllun prentisiaeth nyrsio. Dyna sut y gwnawn hynny.
Ond rwy'n credu bod angen i’r Llywodraeth Lafur yma gael trefn ar y GIG, rhoi’r gorau i dorri’r holl reolau anghywir ac yn torri'r mathau anghywir o record, a hoffwn awgrymu bod y Llywodraeth Lafur yn canolbwyntio ar dorri'r mathau cywir o record ac yn cael trefn ar y GIG, mewn gwirionedd, wrth inni symud ymlaen. Rwy'n gobeithio y cawn atebion gan y Gweinidog heddiw, ond gwnaf y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.