Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 11 Mai 2022.
—wedi cael offthalmolegydd o Wlad Groeg—. Roedd offthalmolegydd o Wlad Groeg—. Cynigiodd y bwrdd iechyd y swydd i unigolyn priodol, a phan ddywedodd y Swyddfa Gartref wrthynt na allent ganiatáu i'w teulu ddod gyda hwy, dyfalwch beth a ddigwyddodd? Penderfynodd nad oedd eisiau derbyn y swydd honno. Felly, mae'r broblem yn cael ei gwaethygu i'r holl weithwyr iechyd proffesiynol eraill y gwnaethom roi caniatâd mewn cyfnod blaenorol iddynt ddod o wledydd eraill yn Ewrop i gefnogi ein gwasanaethau.