Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 11 Mai 2022.
Diolch yn fawr iawn. Felly, yn fy nghyfraniad, os caf barhau, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ganolbwyntio ar amseroedd aros brys i ddechrau a sut, yn wir, y gwelwn y maes hwn yn parhau i fethu. Mae'r ystadegau'n frawychus. Fel yr amlinellwyd eisoes heddiw, gwelwn un o bob pump ar restr aros; un o bob pedwar yng Nghymru yn aros dros 52 wythnos am apwyntiad; ac yn ogystal â hyn, ers mis Awst rydym wedi gweld bod nifer y rhai sy'n aros dros ddwy flynedd wedi mwy na threblu ledled Cymru.
Nawr, wrth edrych ar fy rhanbarth yn y gogledd, mae gan y bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru fwy o bobl ar restrau aros nag unrhyw fwrdd iechyd arall yng Nghymru, ac mae arnaf ofn fod yr ystadegau hyn yn parhau i waethygu wrth edrych ar y rheini mewn unedau damweiniau ac achosion brys. O fewn pedair awr, gwelwn rai o'r amseroedd aros gwaethaf mewn unedau damweiniau ac achosion brys—o fewn pedair awr—yng Nghymru nag yn unman arall ledled Prydain. Maent yn ystadegau sy'n peri pryder mawr. Unwaith eto, os caf ddychwelyd at fy rhanbarth yng ngogledd Cymru, er enghraifft yn Ysbyty Glan Clwyd, un o'r prif ysbytai yn y gogledd, bu'n rhaid i un o bob pedwar claf aros yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys am dros 12 awr. Wrth edrych ar amseroedd ymateb ambiwlansys, mae amseroedd ymateb gogledd Cymru ymhlith y gwaethaf yng Nghymru. Rwyf wedi sefyll yma o'r blaen ac wedi siarad am y rhaniad rhwng y gogledd a'r de, ac unwaith eto, gyda chanlyniadau iechyd a pherfformiadau iechyd, gwelwn raniad rhwng y gogledd a'r de. Nid yw iechyd yn perfformio agos cystal yn y gogledd ag mewn mannau eraill yng Nghymru. Dof yn ôl at y pwynt hwn: 23 mlynedd i ddatrys rhai o'r materion hyn. Rydym yn anghofio weithiau, yn anffodus, fod pobl yn talu am y gwasanaeth hwn. Mae pobl yn talu drwy eu trethi i eistedd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys am dros 12 awr, mae pobl yn talu i aros am oriau di-ben-draw i ambiwlans ddod i'w helpu. Nid yw hyn yn dderbyniol o gwbl.
Yr ail faes i ganolbwyntio arno, rwy'n credu, yw'r amseroedd aros canser. Yn frawychus, cyn y pandemig, nid oedd y targed ar gyfer amseroedd aros canser wedi'i gyrraedd ers 2008. Yn ogystal â hyn, mae data uned gwybodaeth canser Cymru'n dangos, yn anffodus, mai Cymru sydd â'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer chwe math o ganser a'r ail isaf ar gyfer tri math o ganser yn y DU gyfan. Wrth gwrs, mae'n peri pryder mawr i gleifion a theuluoedd ar hyd a lled Cymru. Mae'n amlwg i mi nad yw'r cynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru yn gweithio.
Wrth edrych ar rai o'r ystadegau diweddaraf, gallwn weld bod Llywodraeth Cymru yn dal i fethu ar dargedau canser. Ym mis Chwefror eleni, dim ond 59 y cant o gleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser a ddechreuodd eu triniaeth benodol gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r amheuaeth gyntaf o ganser—ymhell islaw'r targed o 75 y cant. Unwaith eto, mae'n destun pryder i gleifion a theuluoedd ledled Cymru fod y targedau hyn yn cael eu methu. Soniais amdano yn fy nghwestiwn yn gynharach, Weinidog. Fy mhryder mewn perthynas â llawer o hyn—a byddwn yn sefyll yma a byddwn yn tynnu sylw at y materion hyn—yw'r ffaith bod hyn yn erydu ymddiriedaeth yn y gwasanaeth iechyd a'r targedau a'r camau y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd i wella'r gwasanaeth iechyd. Os bydd yr ymddiriedaeth honno'n diflannu, byddwn yn ei chael hi'n anodd tu hwnt i ddod â'n trigolion gyda ni.