Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 11 Mai 2022.
Mae'r darlun wedi newid ers llunio'r cynllun hwn. Mae gan y Llywodraeth gyfle i ymateb i’r bygythiad cynyddol y mae camddefnyddio alcohol yn ei achosi i’n cymunedau. Mae arnom angen adnoddau gwell a thargedau mesuradwy i wrthsefyll niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yng nghynllun cyflawni'r Llywodraeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau o 2023 ymlaen. Nid yw'r sefyllfa bresennol yn gweithio. Rwy'n gobeithio y gall pawb gytuno ar hynny. Rwy'n gwneud y cynnig. Diolch yn fawr.