Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 11 Mai 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae tafarndai wedi bod yn rhan o gyfansoddiad bywyd cymunedol yng Nghymru ers canrifoedd. Arweiniodd y chwyldro diwydiannol at gynnydd mewn safleoedd trwyddedig, gyda llawer o glybiau cymdeithasol yn agor yn y cymunedau newydd a grëwyd i roi llety i'r gweithwyr a oedd yn rhan o'r ymchwydd yn y boblogaeth yng Nghymru. Roedd y lleoliadau hyn yn lleoedd y gallai pobl fynd ar ôl shifft anodd i dorri eu syched. Roeddent hefyd yn fan cyfarfod i'r gymuned ddod at ei gilydd a threfnu. Ers cael fy ethol, rwyf wedi bod yn darparu cymorth i grŵp cymunedol yn y rhanbarth sy'n ceisio ailagor tafarn a fu'n wag ers peth amser. Rwy’n cydnabod yr hwb enfawr y byddai hyn yn ei roi i’r gymuned hon.
Cyn y chwyldro diwydiannol, gwyddom fod alcohol yn rhan o fywyd ers canrifoedd lawer. Mae’n wir dweud nad oes gan y rhan fwyaf o bobl sy’n yfed alcohol unrhyw broblem o gwbl. Gallant fwynhau ychydig beintiau neu wydraid o win yn gyfrifol, gallant gadw o fewn yr unedau alcohol a argymhellir bob wythnos, gallant fynd am wythnosau neu hyd yn oed am fisoedd heb ddiod alcoholaidd. Nid bwriad y ddadl hon yw condemnio neu annog pobl i beidio ag yfed yn gymedrol, mae’n ymwneud â sicrhau bod cymorth ar gael i’r rheini na allant gael un neu ddau yn unig. Bydd y rhan fwyaf ohonom yn adnabod neu wedi adnabod rhywun a chanddynt broblem yfed, boed yn ffrindiau neu’n deulu.
Mae’r ystadegau sydd ar gael i ni'n tanlinellu pa mor gyffredin yw camddefnyddio alcohol yn ein gwlad. Yn 2018, cafwyd 54,900 o dderbyniadau i’r ysbyty yn gysylltiedig ag alcohol, a 14,600 o dderbyniadau a achoswyd gan alcohol yn benodol yng Nghymru. Mae mwy na chwarter yr oedolion sy’n yfed alcohol yn yfed yn amlach ers y cyfyngiadau symud. Efallai mai’r peth mwyaf niweidiol oll yw ein bod, yn 2020, er gwaethaf amryw bolisïau a mesurau gan Lywodraeth Cymru, wedi cyrraedd y nifer uchaf ers 20 mlynedd o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol. Mae'r ffigurau hyn yn ddigalon ac maent yn arswydus. Mae'n rhaid inni beidio ag anghofio'r bywydau y tu ôl i’r ystadegau hyn sydd wedi'u dinistrio a'u colli cyn pryd, gan achosi trallod aruthrol i’r rheini sy’n camddefnyddio alcohol, eu teulu a’u ffrindiau a’u cymuned ehangach.
Gall aelodau teuluoedd alcoholigion ddioddef problemau iechyd meddwl fel gorbryder, iselder a chywilydd oherwydd caethiwed eu hanwyliaid. Mae perygl hefyd y gallant ddioddef yn sgil colli tymer oherwydd meddwdod. I oddeutu 200,000 o oedolion yng Nghymru, arweiniodd alcohol at fwy o densiwn neu wrthdaro yn ystod y cyfyngiadau symud, a dywedodd mwy nag un o bob 13 o bobl fod eu hyfed eu hunain neu yfed rhywun arall wedi gwaethygu'r tensiwn yn eu cartrefi ers y cyfyngiadau symud. Mae'r ffigur hyd yn oed yn uwch mewn aelwydydd â phlant.
Yn ogystal â chost ddynol sylweddol, mae alcohol yn arwain at gost ariannol i’n gwasanaethau lleol, ein GIG a’r system cyfiawnder troseddol hefyd. Mae'n effeithio ar bawb yn ddiwahân. Yn 2015, credid bod camddefnyddio alcohol yn costio mwy na £109 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru, ffigur sy’n debygol o fod wedi codi ers hynny. Rydym yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru gynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau ar gyfer 2019-22, ond credwn fod rhaid gwneud mwy i fynd i’r afael â phroblem gynyddol camddefnyddio alcohol yng Nghymru yn effeithiol. Mae'n rhaid gwneud hyn mewn ffordd flaengar, nid mewn ffordd gosbol.