1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Mai 2022.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi aelwydydd sy'n wynebu costau ynni cynyddol? OQ58038
Llywydd, mae ein rhaglen Cartrefi Clyd ar gyfer aelwydydd incwm is yn arbed £300 y flwyddyn ar gyfartaledd drwy wella effeithlonrwydd ynni. Mae aelwydydd cymwys wedi elwa hefyd ar y taliad cymorth tanwydd gaeaf o £200. Ac yn ogystal, mae taliad costau byw o £150 yn cael ei wneud i eiddo ym mandiau A i D y dreth gyngor.
Diolch, Prif Weinidog. Un o'r materion yr oeddwn i eisiau eu codi gyda chi yw'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Nawr, yn anffodus, nid yw etholwr wedi gallu hawlio drwy'r cynllun, er ei bod yn ofalwr am ei merch ddibynnol, sydd ag anabledd, sy'n cael budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd. Nawr, rwyf ar ddeall, pe bai'r ferch yn talu'r biliau, byddai'r ferch wedi bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, neu pe bai fy etholwr neu ei phartner, yn hytrach na'i merch, bydden nhw hefyd wedi bod yn gymwys ar gyfer y cynllun. Felly, mae'n ymddangos, Prif Weinidog, fod rhywfaint o afreoleidd-dra yn y rhaglen hon fel y mae ar hyn o bryd. Felly, o'r hyn y gallaf ei ddeall, Prif Weinidog—rwyf i wedi codi'r mater hwn gyda'r Gweinidog—mae Llywodraeth Cymru yn archwilio'r posibilrwydd o addasu'r cynllun ar gyfer y rownd nesaf yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Felly, a gaf i ofyn i'r anghysondeb hwn gael ei ystyried, ac i'r enghraifft yr wyf i wedi ei hamlinellu gael ei hystyried, fel y gellid cynnwys fy etholwr, a phobl eraill ledled Cymru sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa hon, yn rownd nesaf y cynllun hwn?
Diolch i Russell George am dynnu fy sylw at y mater yna. Bydd yn gwybod y cafodd y cynllun cymorth tanwydd y gaeaf ei lunio yn gyflym iawn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael cymaint o gymorth â phosibl i ddwylo aelwydydd yr oedd angen y cymorth hwnnw arnyn nhw yn ddirfawr. Rydym ni bellach yn edrych ar ffyrdd o gyflawni ein hymrwymiad i gael ail rownd o'r gronfa honno ar gyfer y gaeaf sydd i ddod. Rydym ni'n edrych ar ffyrdd o ymestyn ei gymhwysedd ac i fynd i'r afael ag unrhyw anghysondebau a allai fod wedi codi yn y cynllun gwreiddiol. Felly, rhoddaf sicrwydd iddo y byddwn ni'n sicr yn ystyried yr enghraifft y mae wedi ei chynnig i ni y prynhawn yma, gan ein bod ni'n dymuno cael ein cymorth i gynifer o aelwydydd â phosibl o fewn paramedrau'r cynllun a'r cyllid sydd ar gael ar ei gyfer.
Mae aelwydydd yng Nghymru yn wynebu'r gostyngiad mwyaf i incwm gwario mewn bron i 50 mlynedd, a'r aelwydydd tlotaf sy'n cael eu taro galetaf, gan wario dros chwarter eu hincwm ar ynni a bwyd. O gofio mai argyfwng costau byw y Torïaid yw hwn, mae'r atebion a'r sylwadau yr ydym ni wedi eu clywed gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan yn jôc. Dywedwyd wrthym ni am gael gwell swyddi, dywedwyd wrthym ni nad ydym ni'n gallu coginio yn iawn, a nawr mae gennym ni Brif Weinidog y DU sy'n hapus i weld pensiynwyr yn teithio ar fysiau drwy'r dydd dim ond i gadw'n gynnes. I'r gwrthwyneb, mae Llywodraeth Cymru yn darparu atebion gwirioneddol: y cynllun cymorth costau byw a'r cynllun cymorth costau byw dewisol, y gronfa cymorth dewisol, y cynllun mynediad at grant datblygu disgyblion, a chynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Rwy'n gwybod bod elusennau a'r trydydd sector hefyd yn darparu cymorth hanfodol, ac mae mor bwysig bod trigolion yn ymwybodol o hyn. A wnaiff y Prif Weinidog archwilio'r syniad o greu llinell gymorth costau byw, neu ysgrifennu at aelwydydd yng Nghymru, gan gyfeirio trigolion i sefydliadau trydydd sector ac elusennau sy'n darparu cymorth i liniaru'r pwysau costau byw?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Buffy Williams am y pwyntiau yna? Ac mae hi'n iawn, wrth gwrs, bod angen i ni wneud yn siŵr bod aelwydydd yng Nghymru mor ymwybodol o'r cymorth â phosibl. Ac rydym ni'n gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd, gan weithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol, gan wneud yn siŵr, drwy sefydliadau trydydd sector, fod gwybodaeth ar gael i bobl yn rhwydd, a phan fydd rhywun yn ymddangos mewn un rhan o'r system yn chwilio am gymorth, ein bod ni'n gwneud yn siŵr, ar y pwynt mynediad hwnnw, y rhoddir cyngor da iddyn nhw ar unrhyw fathau eraill o gymorth sydd ar gael yma yng Nghymru. Nawr, rydym ni'n gwneud hynny o fewn terfynau'r pwerau a'r cyllid sydd ar gael i ni, ac mae sylwebyddion annibynnol wedi cydnabod bod graddau'r cymorth sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru yn fwy na'r hyn sydd ar gael mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.
Ond, yn sicr, y pwynt y dechreuodd Buffy Williams gydag ef, Llywydd, yw'r un pwysicaf—mae angen i Lywodraeth y DU wneud mwy i wneud yn siŵr bod pobl yn cael eu helpu, ac mae'r un ffynhonnell fwyaf amlwg o gymorth wrth law mor rhwydd. Dim ond yr wythnos diwethaf, dywedodd cadeirydd Tesco ei fod yn credu bod achos anorchfygol dros dreth ffawdelw. Rhoddodd prif weithredwr BP sicrwydd, pe byddai treth ffawdelw, na fyddai'n effeithio ar fwriad y cwmni hwnnw i fuddsoddi £18 biliwn dros yr wyth mlynedd nesaf mewn mesurau ynni yn y DU. Mae Prif Weinidog y DU yn dweud wrthym nad yw'n hoffi treth ffawdelw ac nad yw'n credu mai dyma'r ffordd gywir ymlaen ar yr un diwrnod ag yr oedd Canghellor y Trysorlys yn dweud nad oedd unrhyw opsiynau oddi ar y bwrdd a'i fod yn agored ei feddwl am dreth ffawdelw. Wel, pa un ydyw? Mae wir yn amser i Lywodraeth y DU roi trefn ar eu safbwynt eu hunain ar y mater hwn, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n cymryd arian oddi wrth gwmnïau sy'n gwneud elw gormodol enfawr oherwydd y cynnydd i gostau ynni ac yn darparu'r arian hwnnw i'r union fathau o aelwydydd y mae Buffy Williams wedi tynnu sylw atyn nhw y prynhawn yma.