Part of the debate – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 17 Mai 2022.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y dylai dadleuon y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru gael eu cyfnewid yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.