Part of the debate – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 17 Mai 2022.
Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn ymwneud â ffyrdd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd? Yn gyntaf, gawn ni ddiweddariad ganddo ynghylch Llanbedr a beth ydy'r diweddaraf, os gwelwch yn dda? Yn anffodus, bu yna ddamwain ffordd ofnadwy yn y pentref ar fore Sul, yr wythfed o'r mis yma, ac fe ddioddefodd gŵr anafiadau difrifol. Dwi'n siŵr ein bod ni oll yn dymuno gwellhad llawn a buan iddo fo. Yn sgil hyn, caewyd y ffordd am y rhan fwyaf o'r diwrnod, gan orfodi pobl y pentref i wneud taith o 40 milltir o amgylch mynyddoedd y Rhinogydd er mwyn cyrraedd Harlech, sydd ond 3 milltir i ffwrdd. Dyna'r peryg o gael un lôn yn unig, ac yn enghraifft bellach o pam fod angen ffordd osgoi. Felly, mae angen datrysiad buan arnom, os gwelwch yn dda.
Yn ail, gawn ni ddiweddariad hefyd gan y Dirprwy Weinidog ynghylch cynlluniau i wella diogelwch ffyrdd cefn gwlad yn y gogledd? Dŷn ni wedi gweld nifer o ddamweiniau yn ddiweddar—dwy ddamwain ddifrifol, er enghraifft, ddwy wythnos yn olynol ar yr A494 ger Glan-yr-Afon ar bwys y Bala. Dywed trigolion lleol wrthyf fi eu bod nhw ofn gweld yr haul yn tywynnu gan fod hyn yn anochel yn golygu bod damweiniau am fod ar y ffordd. Flwyddyn ddiwethaf, cafwyd chwe damwain angheuol ar ffyrdd Meirionnydd yn unig, a 36 anaf difrifol hefyd. Roedd hanner y damweiniau angheuol yn yrwyr beiciau modur. Yn wir, ers 2016, mae yna 24 damwain angheuol a 162 damwain difrifol ar ffyrdd Meirionnydd. Felly, gawn ni ddiweddariad gan y Gweinidog ynghylch pa gamau mae o'n eu cymryd er mwyn sicrhau diogelwch ffyrdd yn y gogledd? Diolch.